'Roedden ni ar fin peidio â gallu ymdopi' â brig Covid-19
- Cyhoeddwyd
Mae ymgynghorydd gofal dwys yn ysbyty mwyaf Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod o fewn wythnos i redeg allan o adnoddau i drin cleifion coronafeirws, pan oedd y gwasanaeth ar ei brysuraf.
Yn ôl Dr Chris Hingston, y rheswm na thorrodd Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ei gapasiti gofal dwys oedd parodrwydd y cyhoedd i wrando ar y cyngor i aros adref.
Fe gafodd BBC Cymru gyfle prin i dreulio amser yn uned gofal dwys yr ysbyty, sydd bellach yn paratoi ar gyfer ail don o achosion.
"Rwy'n credu mai dyna'r ofn mawr iawn, oherwydd y byddem yn ei chael yn anodd delio â brig mwy," meddai Dr Hingston.
"Mi oedden ni ar fin peidio â gallu ymdopi."
Ers dechrau'r pandemig, mae'r ysbyty wedi derbyn 755 o gleifion sydd wedi profi'n bositif am Covid-19. Mae 228 wedi marw yno.
Mae 477 o gleifion wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty, ond mae'r ffordd yn ôl i fod yn holliach yn gallu bod yn un hir.
Trafferthion cofio
Treuliodd Geoff Bodman, 56 o Dremorfa yng Nghaerdydd, wyth wythnos a hanner yn uned gofal dwys yr ysbyty. Mae bellach yn cael therapi dwys yno.
Mae'n ailddysgu sgiliau sylfaenol fel cerdded a brwsio'i ddannedd, gyda'r gobaith o ddychwelyd adref at ei deulu yn fuan.
"Roeddwn i ar beiriant anadlu," meddai. "Roedd fy mrawd yn meddwl fy mod i'n goner.
"Rwy'n ei chael hi'n anodd cofio llawer ohono ac rwy'n ei chael hi'n eithaf chwithig weithiau fy mod i'n ceisio cofio gwybodaeth y dylwn i ei wybod.
"Y diwrnod o'r blaen mi o'n i eisiau ysgrifennu fy enw a doeddwn i ddim yn gallu."
Yn ôl Mr Bodman, sy'n rhedeg ei fusnes addurno ei hun, mae ei salwch wedi effeithio ar ei gof ac ni all gofio cael ei dderbyn i'r ysbyty.
"Fy atgof olaf oedd mynd i Cheltenham Races," meddai.
Mae Emma Thomas yn nyrs ymchwil gofal dwys sydd wedi bod yn helpu gyda rhai o gleifion mwyaf difrifol sâl yr ysbyty.
"Fi'n credu ar un pwynt roedd saith y diwrnod yn dod i mewn," meddai.
"Sai'n credu bod dim un ohonon ni wedi ystyried faint mor galed fydde hwnna - i rywun farw mewn gwely a dim teulu yno."
"Chi wastod yn gwybod bod teulu gartref rhywle ffili fod yna... ma' pawb wedi llefen, fi'n credu."
Yn ôl Megan Lewis, ffisiotherapydd yn yr ysbyty, mae ail frig o achosion coronafeirws yn bryder mawr.
"Ni wedi gweld amser caled iawn a fi'n credu bod risg mawr nawr o'r second peak ni'n siarad amdano," meddai.
"Ni 'di ymdopi falle gyda'r wave cyntaf yma. Galle fe fod lot yn waeth a 'sa i'n siŵr faint fydde ni'n ymdopi gyda'r ail, falle'r trydydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2020