Y gwaith profi, olrhain, amddiffyn yn 'aruthrol'

  • Cyhoeddwyd
Prawf gartrefFfynhonnell y llun, Leon Neal
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bosib y byddai angen 10,000 o brofion eraill y dydd ar gyfer y cyhoedd, a fyddai'n gallu profi eu hunain gyda chitiau adref.

Fe fydd y broses o olrhain achosion o coronafeirws yng Nghymru yn dasg "aruthrol", yn ôl arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Dywedodd Andrew Morgan y byddai angen "adnoddau ychwanegol sylweddol" ar gynghorau ar gyfer y gwaith "hanfodol" yma.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau i'w rhaglen "Profi, Olrhain, Amddiffyn" (TTP) fod yn weithredol erbyn diwedd mis Mai.

Maen nhw'n cydnabod y byddai angen "adnoddau sylweddol" er mwyn cyflawni'r gorchwyl, gan ychwanegu eu bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol.

Mae TTP yn cynnwys profi pobl sydd â symptomau a dod o hyd i bobl eraill y buon nhw mewn cysylltiad agos â nhw, cyn gofyn wedyn iddyn nhw i hunan-ynysu.

Ffynhonnell y llun, GEOFF CADDICK
Disgrifiad o’r llun,

Gweithiwr allweddol yn gosod ei brawf mewn blwch i gael ei brofi mewn canolfan yng Nghaerdydd

Wrth amlinellu eu cynllun i leddfu'r cyfyngiadau dywedodd y llywodraeth fod llwyddiant TTP yn ganolog i'r broses.

Byddai'n golygu cynyddu capasiti profi ar gyfer pobl mewn ysbytai, cartrefi gofal a gweithwyr allweddol i tua 10,000 erbyn diwedd mis Mai.

Cynllun peilot

Mae'n bosib y byddai angen 10,000 o brofion eraill y dydd ar gyfer y cyhoedd, a fyddai'n gallu profi eu hunain adref.

Ar hyn o bryd mae gan y llywodraeth y gallu i brofi tua 5,000 y dydd, ac ar ddydd Iau Mai 14 cafodd 1,421 o brofion eu cynnal.

Mae'r llywodraeth o'r farn y byddai angen tua 1,000 o staff i wneud y gwaith i ddechrau, gan gynnwys pobl sy'n gweithio i awdurdodau lleol.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, y byddai cynllun peilot yn cychwyn mewn rhai rhannau o'r wlad yr wythnos nesaf.

Dywedodd Andrew Morgan, sydd hefyd yn arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf, fod cynllun Llywodraeth Cymru yn un "uchelgeisiol ac y bydd angen darparu adnoddau ychwanegol sylweddol" er mwyn ei gwneud hi'n gynllun llwyddiannus.

"Ochr yn ochr â swyddogion amddiffyn cyhoeddus y cyngor sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig, a phartneriaid yn y maes iechyd, bydd angen recriwtio neu adleoli staff eraill i gefnogi'r gwaith enfawr o reoli'r afiechyd mewn cymunedau lleol," meddai.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod y byddai'r gwaith hwn yn costio llawer, a bydd cynghorau'n parhau i weithio gyda gweinidogion i archwilio'r goblygiadau a'r cyllid sydd ei angen."

Disgrifiad o’r llun,

Andrew Morgan: "Bydd angen adnoddau ychwanegol sylweddol ar gynghorau ar gyfer y gwaith", meddai

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd angen adnoddau sylweddol ar gyfer ein strategaeth Profi, Olrhain, Amddiffyn.

"Byddwn yn gweithio'n agos gyda phartneriaid.

"Bydd ein dull yn adeiladu ar arbenigedd olrhain cyswllt presennol ein byrddau iechyd lleol, ac yn dibynnu yn enwedig ar ein hawdurdodau lleol i gyflawni'r strategaeth hon ar lawr gwlad."

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru hefyd gadarnhau y byddant yn cydweithio gyda San Steffan i "gynyddu capasiti profi ymhellach gan ddefnyddio rhaglen brofi'r DU ar gyfer y cyhoedd a gweithwyr allweddol."