Hoff ganeuon y cyfnod cloi
- Cyhoeddwyd
Mae'n cael ei ddweud yn aml fod cerddoriaeth yn codi ysbryd. Felly mewn cyfnod o ansicrwydd, fel yr un yma, nid yw'n syndod fod nifer ohonom wedi troi at ein hoff ganeuon am gysur.
Holodd Cymru Fyw rai o gerddorion Cymru pa ganeuon maen nhw wedi bod yn gwrando arnyn nhw llawer dros yr wythnosau diwethaf i'w helpu i ddygymod â'r 'normal newydd'.
Huw Chiswell
Dawnsio Ben Fy Hun - Sefydliad
Mae wedi bod yn ffefryn ers tro a wedi ymddangos ar nifer o'm rhestrau dethol ar hyd y blynyddoedd. Mae'r trac wedi magu ystyr newydd ac annisgwyl yn ystod y cyfnod diweddar hwn.
Y Pwysau - Marc Cyrff
Mae'n hudolus. Clasur o gân yr hoffwn ei dewis er parch at y llengoedd o lewion sy'n mentro gymaint wrth wneud y gwaith caled er ein mwyn ni oll trwy gydol y dyddiau tywyll hyn.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Branwen Haf Williams - Cowbois Rhos Botwnnog, Siddi a Blodau Papur, a'r label recordio I Ka Ching
Yr 11eg Diwrnod - Alun Gaffey
'Dw i wedi gwirioni ar ganeuon newydd Alun Gaffey, ar ôl aros yn hir amdanyn nhw! Mae'r gân yma'n enwedig yn bywiogi rhywun ac yn codi calon. Pan glywes i hon am y tro cyntaf, ro'n i'n edrych 'mlaen at ei chlywed yn fyw - ond bydd rhaid bodloni ar ddawnsio yn y gegin am rŵan.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Terracota - Georgia Ruth
Mae albwm newydd Georgia Ruth, Mai, yn tawelu a llonyddu rhywun. Dw i wedi gwrando arni'n gyson tra'n dysgu fy hun sut i arddio yn y cyfnod rhyfedd 'ma! Alla i ddim mynd i fy hoff siop, Awen Meirion, i brynu copi caled ar hyn o bryd, ond dyna un o'r pethau cynta' wna' i wedi i hyn ddod i ben!
Hywel Pitts - I Fight Lions a HyWelsh
Graffiti Cymraeg - Anweledig
Llawn egni, ac ysbryd gwrthryfelgar, sydd yn angenrheidiol dyddiau yma... Mae hi'n atgoffa fi o Sesiwn Fawr Dolgellau (roedden nhw'n headlinio'r nos Wener yn 2018). Dyddiau gwell!
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Yn y Bôn - Elis Derby
Wnaeth Elis ryddhau'r albym - 3 - yn gynharach 'leni, a dwi'n joio'r albym cyfan; ond hon 'di'r ffefryn. Clincar. Mae hi'n rhoi gobaith i fi am ddyfodol cerddoriaeth Gymraeg.
Heather Jones
Byw i'r Funud - Dyfrig Evans
Welis i Dyfrig yn helpu rhywun gyda cadair olwyn mewn caffi yng Nghaerdydd - do'dd neb arall yn helpu. Feddylies i 'o am foi lyfli'. A dwi'n dwli ar y gân - mae e mor uplifting.
Mae Rhywun wedi Dwyn fy Nhrwyn - Y Tebot Piws
Cân sili, ond mae'n codi dy galon pan ti eisie laff. A dwi'n hoffi'r Tebot, ac yn colli Sbardun...
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
I Won't Back Down - Tom Petty and the Heartbreakers
Cân ffab a dwi'n ei dysgu hi ar y gitar ar y foment. Un arall i godi calon!
Tomos Williams - Burum, a chyflwynydd rhaglen Jazz gyda Tomos Williams ar BBC Radio Cymru
NEPA - Tony Allen
Yn ystod COVID-19 ry'n ni wedi colli nifer erchyll o gerddorion arbennig iawn, a rhai jazz a rhai sy'n gysylltiedig â'r byd jazz yn benodol - Mike Longo, Wallace Roney, Manu Dibango, Ellis Marsalis, Lee Konitz, ac yna rhai wythnosau yn ôl y drymiwr Tony Allen.
Drymiwr o Affrica oedd Tony Allen oedd yn rhan allweddol o fand Fela Kuti a fe yn benodol sy'n gyfrifol am y rhythm Afro-Beat. Roedd yn ddrymiwr arbennig iawn. Wedi ei farwolaeth gwnaeth Giles Peterson drydar am y gân NEPA, ac yna gwnaeth Rhys Mwyn ei chwarae ar ei sioe ar Radio Cymru.
Do'n i ddim yn gyfarwydd a'r gân yma o gwbl cyn hyn, ond mae'n wirioneddol wych. Cyd-destun trist i ddod ar draws cerddoriaeth newydd, ond dyma un o'r pethau mae Tony Allen wedi gadael ar ei ôl i ni rannu.
Gwenllian, Hollie a Heledd - Adwaith
Tywydd Hufen Iâ - Carwyn Ellis a Rio18
Ma'r albym Joia! i gyd mor hafaidd ac uplifting!
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Nofio Efo'r Fishis - Kim Hon
Un o fandiau gore y sin ar hyn o bryd! Fi mo'yn mynd i'r traeth a nofio gyda'r ffishis hefyd...!
Madryn - Georgia Ruth
Ma'i llais hi mor bur, mae'n rhoi shivers i fi! Ma' caneuon yr albym i gyd mor mor dda.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
City Looks Pretty - Courtney Barnett
Ma'r gân mor berthnasol - y llinell agoriadol yw "the city looks pretty when you've been indoors"...
Wrth Edrych Nôl - Ysgol Sul
Mae'r gân 'ma byth yn mynd yn hen, ac mae'n f'atgoffa fi o wyliau ac amseroedd da!
Owain Roberts - Band Pres Llareggub
Mistar Duw - Cerddorfa Genedlaethol Cymru, Mared Williams a Gwilym Bowen Rhys (yn fyw yn Pontio Bangor 2019)
Atgoffa fi o'r tro diwethaf yn arwain cerddorfa. Anodd peidio tristáu gyda'r niferoedd o gyngherddau sydd wedi eu gohirio y flwyddyn yma ond mae'r gân hon yn fy atgoffa o berfformiad pan mae popeth yn dod at ei gilydd - y cerddorion, y gynulleidfa, y gerddoriaeth i greu moment wirioneddol arbennig (wel... i fi beth bynnag!). Edrych ymlaen yn fawr i gael perfformio eto!
Lleuwen - Tir Na Nog
Dwi wedi gwrando lot ar albwm Lleuwen - Gwn Glân Beibl Budr. Mae'r gân hon jyst mor brydferth ac organig mewn sawl ffordd ac yr un pryd yn fy nharo fel bat criced weithiau. Chwip o gân!
Pa gân rydych chi wedi bod yn gwrando arni dros y cyfnod cloi? Dywedwch wrth Cymru Fyw!