Amddiffyn lefel y gefnogaeth i'r diwydiant twristiaid
- Cyhoeddwyd
Mae'r gweinidog sy'n gyfrifol am dwristiaeth wedi amddiffyn lefel cefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r sector yn ystod yr argyfwng coronafeirws.
Fe wnaeth yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ddweud hefyd na fydd y cyfyngiadau'n cael eu llacio mewn ardaloedd poblogaidd heb ganiatâd y cymunedau hynny.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ei fod yn "gobeithio bod pobl o fewn y diwydiant yn teimlo ein bod wedi ymateb yn gadarnhaol".
Daw hynny wrth i berchennog gwesty yn Aberystwyth ddweud bod angen mwy o ganllawiau gan Lywodraeth Cymru ynglŷn ag adeiladu fframwaith i gynnal y diwydiant.
'Colli lot o gwsg'
Dywedodd perchennog Gwesty Richmond yn Aberystwyth, Richard Griffiths, eu bod wedi bod ar gau ers 60 diwrnod bellach oherwydd y pandemig.
"Does dim ceiniog o arian wedi dod mewn i dalu biliau, a 'dan ni wedi rhoi'n staff ar furlough," meddai wrth raglen Newyddion S4C.
"'Dan ni'n ddiolchgar am hynny ac am y grantiau sydd wedi dod aton ni, ond dyw hynny heb ddod â digon o arian mewn i dalu'r biliau, a 'dan ni'n gofidio os na gawn ni help, gawn ni amser ofnadwy o anodd dros y gaeaf.
"Dwi wedi colli lot o gwsg - lot o nosweithiau dwi'n deffro a methu mynd 'nôl i gysgu yn meddwl beth yw'r ateb, beth allwn ni wneud?"
Ychwanegodd Mr Griffiths bod ganddo bryder y bydd nifer o fusnesau yn Aberystwyth, sy'n ardal boblogaidd â thwristiaeth, yn mynd i'r wal.
"Yn bendant bydd llefydd yn cau. Does gennym ni ddim lot o glem sut i symud ymlaen," meddai.
"Beth fydd dyfodol staff hefyd? Os na all y busnes gynnal cyflogau, beth ydw i'n gwneud?
"Mae 'na staff wedi bod efo ni ers blynydde maith, a dwi ddim eisiau colli neb - maen nhw'n rhan o'r teulu mewn ffordd."
Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas y dylai unrhyw fusnes o fewn y diwydiant sy'n "teimlo bod Llywodraeth Cymru ddim yn ymateb... [anfon] ebost i mi yn syth ac fe geith o ymateb".
"Cyn gynted ag ydyn ni'n teimlo ei bod yn briodol, mi fyddwn ni yn cyhoeddi canllawiau newydd - fe all hynny ddigwydd o fewn y pythefnos nesaf," meddai.
"Ond, y ddadl bwysig fan hyn ydy, rydyn ni yng nghanol argyfwng iechyd cyhoeddus, felly'r peth cyntaf mae'n rhaid i ni wneud yw diogelu y boblogaeth gyffredinol yng Nghymru yn y sefyllfa yma."
'Cytundeb gan y cymunedau'
Awgrymodd hefyd y gallai fod angen caniatâd cymunedol cyn codi'r cyfyngiadau mewn ardaloedd twristaidd.
"Fydd 'na ddim llacio nes bod y sefyllfa yn gwbl ddiogel o safbwynt iechyd cyhoeddus," meddai'r gweinidog.
"Fydd 'na ddim llacio heblaw bod 'na gytundeb gan y cymunedau - does dim byd arall yn bosib, oherwydd mae'r diwydiant ymwelwyr yn dibynnu ar barodrwydd pobl i groesawu ymwelwyr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mai 2020
- Cyhoeddwyd20 Mai 2020
- Cyhoeddwyd19 Mai 2020