Parc Cenedlaethol Eryri yn wynebu colledion o £1.3m

  • Cyhoeddwyd
eryri ar gau

Mae amcangyfrif fod Parc Cenedlaethol Eryri yn wynebu colledion o hyd at £1.3m dros gyfnod o flwyddyn oherwydd Covid-19.

Fe fydd awdurdod y parc yn cyfarfod brynhawn Mercher i drafod y colledion, ac fe fyddan nhw hefyd yn trafod cyflogau staff.

Ers dechrau mis Mai, maen nhw wedi ymuno â chynllun seibiant cyflog Llywodraeth y DU.

Gydag atyniadau fel Plas Tan y Bwlch, Yr Ysgwrn a meysydd parcio ar gau mae eu prif ffynonellau incwm wedi dod i ben.

Ffynhonnell y llun, OLI SCARFF

Dywedodd prif weithredwr yr awdurdod, Emyr Williams wrth raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru: "Fel unrhyw un yn y sector preifat, rydyn ni wedi gorfod cau lawr am nad ydyn ni yn medru gweithredu yn fasnachol.

"I ddeall sut yr ydyn ni yn cael ein cyllido, mae ein trosiant fel arfer rhwng £7m ac £8m, yr incwm masnachol yn £2m ac rydyn ni yn cael grant gan y llywodraeth o £5m.

"Mae'r incwm masnachol wedi cynyddu yn y 10 mlynedd diwethaf oherwydd yr her ariannol ac am fod rhaid gwarchod gwasanaethau fel cynnal a chadw llwybrau, wardeiniaid, canolfannau gwybodaeth a chefnogaeth i bobl ifanc, felly rydyn ni yn ddibynnol iawn ar yr incwm yma i gario ymlaen efo gwasanaethau.

"Dydyn ni ddim yn gwybod faint mae'r sefyllfa yma yn mynd i bara. Rydyn ni yn gwybod bod yna golledion o £600,000 yn y chwarter cyntaf.

"Os ydy hyn yn para am flwyddyn gron rydyn ni yn sôn am golledion o £1.3m ond mae gennym ni ffyrdd o leihau hynny drwy wario llai ac mi fyddwn ni'n debyg o wario mwy na £800,000 yn llai yn yr ardal yn lleol ac mae hynny yn mynd i gael effaith ar wasanaethau."

Ychwanegodd Mr Williams: "Beth sy'n anodd hefyd ydy bod y rhagolygon ar ôl codi'r cyfyngiadau y bydd yna fwy o alw ar ddod i ymweld â'r parc, ac mae hyn yn digwydd yn y cyfnod pan fydd angen mwy o adnoddau i ymdopi efo'r bobl fydd yn llifo i Gymru, i Eryri a'r parciau arall.

"Mae'n creu ansicrwydd ynglŷn â sut y byddwn ni yn ymdopi o'r flwyddyn yma ymlaen."

Wrth gadarnhau bod rhai o staff yr awdurdod wedi eu rhoi ar gynllun seibiant cyflog Llywodraeth y DU, ychwanegodd Mr Williams: "Mae'r cynllun saib furlough wedi ei wneud yn benodol i'r sector preifat a gwirfoddol ond yn agor bellach i elfennau masnachol y sector cyhoeddus hefyd felly mae staff mewn safleoedd fel Plas Tan y Bwlch, yr Ysgwrn, wedi cael eu rhoi ar y cynllun yma am y tro."

Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn cwrdd brynhawn Mercher, ond ni fydd y cyfarfod yn un sy'n agored i'r cyhoedd.