Becky Brewerton yn 'gweld y byd o sefyllfa wahanol'

  • Cyhoeddwyd
Becky BrewertonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Becky Brewerton yn aelod o dîm Ewrop chwareodd yng Nghwpan Solheim yn 2007

Mae'r golffwraig broffesiynol Becky Brewerton wedi gweld y byd o "sefyllfa wahanol" dros yr wythnosau diwethaf yn sgil yr argyfwng coronafeirws.

Gyda golff fel campau eraill wedi gorfod cael eu hatal am y tro, mae'r Gymraes 37 oed wedi bod yn cadw'n brysur i ffwrdd o'r cwrs golff.

"Dwi wedi bod yn danfon parseli ar gyfer Amazon i gael ychydig o arian i mewn," meddai.

"Mae hi wedi bod yn neis i wneud rhywbeth gwahanol i fod yn onest ond tydw i ddim eisiau danfon parseli am byth.

"Da chi'n gallu gweld y byd o sefyllfa wahanol oherwydd dwi wedi bod yn chwarae golff yn broffesiynol ers ro'n i'n 21.

"Mae wedi bod ychydig yn od faswn i'n dweud, ond dwi wedi cael amser da a dal hefo'r golff."

Ymarfer

A hithau bellach yn byw yn Sir Northampton, mae Becky wedi bod yn ôl yn ymarfer ers pythefnos wedi i'r cyfyngiadau cael eu llacio yn Lloegr.

Ond dyw hi ddim yn rhagweld y bydd hi'n ôl yn cystadlu am rhai misoedd, gyda dim dyddiad pendant am bryd bydd y gylchdaith yn ailddechrau.

"Tydw i ddim yn siŵr bydd unrhyw beth yn digwydd tan mis Medi neu mis Hydref," meddai mewn cyfweliad gyda Radio Cymru.

"Mae'r rheolau ar gyfer teithio ar y funud yn gwneud o'n anodd, yn enwedig yn Ewrop, i wneud o'n deg ar gyfer y chwaraewyr i gyd.

"Dwi wedi dechrau ymarfer dwi ac yn cael siawns i ymarfer tri i bedwar awr y dydd

"Ond mae'n anodd achos mae'n teimlo y bydd hi'n lot o amser cyn da ni'n gallu chwarae mewn cystadleuaeth eto.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Becky Brewerton yn hanu o Abergele ac yn gyn-ddisgybl Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy

Rhybuddiodd cyn-gadeirydd Chwaraeon Cymru, yr Athro Laura McAllister, bod chwaraeon merched yn wynebu "bygythiad mawr" o ganlyniad i'r pandemig.

Mae Becky Brewerton yn cydnabod bod sawl her yn wynebu ei champ hithau hefyd ond mae hi'n obeithiol am y dyfodol diolch i gefnogaeth Cymdeithas Golff Proffesiynol y Merched.

"Tydi golff i ferched ddim yn yr un sefyllfa â golff i ddynion felly da ni'n poeni ychydig," meddai.

"Yn Ewrop 'da ni wedi bod yn ffodus i gael partneriaeth hefo'r LPGA rŵan a dwi'n meddwl y bydd hwnna'n gwneud pethau'n iawn ar gyfer y dyfodol.

"Dwi'n teimlo'n dda wedi'r egwyl. Rhan fwyaf o'r amser mae'n full on.

"Da chi'n ei wneud pob diwrnod ac yn ymarfer hyd at wyth awr pob diwrnod, teithio i gystadlaethau a da chi yn gallu colli ychydig o gariad at y gêm.

"Ond dwi'n teimlo'n weddol dda a gobeithio y bydd yn gwneud gwahaniaeth wrth symud ymlaen."