Mewn Cymru Aled Davies yn symud o'r Gweilch i'r Saracens
- Cyhoeddwyd
Mae mewnwr Cymru Aled Davies wedi symud o'r Gweilch i'r Saracens ar gytundeb tair blynedd o hyd.
Fydd Davies, sy'n 27 mlwydd oed, ddim yn gymwys i chwarae i'r tîm cenedlaethol bellach gan ei fod yn dewis symud o Gymru a heb ennill o leiaf 60 cap.
"Mae'n anrhydedd ymuno gyda'r Saracens a fedrai ddim aros i gychwyn," dywedodd Davies mewn datganiad ar wefan y clwb.
Chwaraeodd Davies mewn pedair o'r pum gêm wrth i Gymru ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2019, gan ddechrau yn y fuddugoliaeth o 15-26 yn erbyn Yr Eidal yn Rhufain.
Ond chafodd o ddim ei ddewis yn y garfan ar gyfer y Bencampwriaeth eleni wrth i Rhys Webb ddychwelyd wrth ochr Gareth Davies a Tomos Williams.
Mi fydd Davies, sydd wedi ennill 20 cap, yn chwarae yn yr ail adran yn Lloegr y tymor nesaf ar ôl i'r Saracens gael eu diarddel o'r Uwch Gynghrair am dorri rheolau taliadau i chwaraewyr.
Dyma'r chwaraewr cyntaf iddyn nhw arwyddo ers cael eu cosbi.
Mae Hadleigh Parkes a Thomas Young hefyd wedi dod â'u gyrfaoedd rhyngwladol i ben yn ddiweddar drwy beidio arwyddo i ranbarthau Cymru.
Ac mae wythwr y Gweilch Dan Baker wedi symud i glwb Stade Montois yn ail adran Ffrainc.
Cychwynodd Davies ei yrfa gyda'r Scarlets yn 2009, cyn ymuno gyda'r Gweilch yn 2018.