Bachgen yn gwella ar ôl tân carafán laddodd ei frawd

  • Cyhoeddwyd
HarleyFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Mae Harley Harvey yn gwella adref ar ôl cael anafiadau difrifol pan aeth carafán ar dân

Mae bachgen pedair oed yn gwella'n dda ar ôl dioddef anafiadau sydd wedi newid ei fywyd pan aeth carafán ar dân yng Ngheredigion.

Fe gafodd Harley Harvey losgiadau difrifol i ochr chwith ei gorff. Ar un adeg, fe ddywedodd meddygon yn Ysbyty Plant Bryste wrth Erin Harvey, ei fam, efallai na fyddai'n goroesi.

Ond nawr, bedair mis ers y tân, mae ei fam yn disgrifio ei mab fel bachgen bach "arbennig" wrth iddo barhau i wella gartref.

Yn eu cartref ym Mhontrhydfendigaid dywedodd Erin: "Fe ddwedodd doctoriaid wrthon ni i baratoi ar gyfer y gwaethaf."

"Ac yna wrth iddo wella fe ddwedon nhw hefyd efallai na fyddai'n gallu gwneud yr holl bethau yr oedd yn eu gwneud o'r blaen.

"Yn wreiddiol, dywedon nhw y byddai'n colli tri o'i fysedd ar ei law chwith ond mae'r cyfan wedi gwella'n dda ac mae e newydd ddechrau symud ei law chwith a siglo ei fysedd, felly mae'n gwneud yn dda iawn.

"Yn amlwg rwy'n falch ohono bob dydd. Mae e'n fachgen arbennig."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Zac (chwith) yn y digwyddiad, ac roedd ei frawd Harley mewn cyflwr difrifol wedi'r tân

Gartref, mae Harley yn chwarae mewn pabell yn yr ardd gefn lle gall gysgodi ei groen rhag yr haul. Mae'r tân wedi ei adael â chreithiau i ran helaeth o ochr chwith ei gorff, a bydd angen triniaeth bellach arno yn y dyfodol.

Ym mis Ionawr, arhosodd Harley a'i frawd tair oed Zac am noson gyda'u tad Shaun Harvey mewn carafán ym mhentref Ffair Rhos gerllaw.

Dechreuodd y tan yn oriau mân y bore - ac er i Shaun a Harley lwyddo i ddod allan o'r garafán, bu farw Zac.

Mae Shaun yn gwella o'i anafiadau gyda'i deulu yn Swydd Gaerhirfryn. Mae'r heddlu'n dal i ymchwilio i'r tân ond maen nhw'n dweud nad yw'n cael ei drin fel un amheus.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw brawd bach Harley, Zac, a cafodd ei dad 28 oed, Shaun, ei gludo i'r ysbyty

Dywedodd Erin fod Zac yn blentyn prysur iawn: "Roedd bob amser ar fynd, drwy'r dydd, doedd e byth yn stopio.

"Ac fe fyddai bob amser yn gwneud i ni chwerthin - roedd ganddo'r ymadroddion mwyaf doniol a byddai'n gallu gwneud i bawb chwerthin.

"Am ymhell dros fis (ar ôl y tân) nid oedd yn teimlo'n real - cymerodd ychydig o amser i fi sylweddoli yn llawn beth oedd wedi digwydd mewn gwirionedd. Ond oherwydd bod gen i Harley i ganolbwyntio arno a'i wella, fe wnaeth gymryd fy meddwl oddi ar bethau, ac roeddwn i'n canolbwyntio ar ei gael adref."

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw brawd bach Harley, Zac, yn y tân

Angen mwy o driniaeth

Mae Erin hefyd yn talu teyrnged i gefnogaeth y meddygon sydd wedi trin Harley, swyddogion cyswllt yr heddlu a gefnogodd y teulu ac aelodau o'r gymuned ym Mhontrhydfendigaid a sefydlodd gronfa gymorth. Codwyd mwy na £18,000 sydd bellach wedi'i drosglwyddo i'r teulu.

"Cawsom lawer o help gyda phobl yn ôl adref yn anfon pecynnau gofal, gan gael y tŷ yn barod i ni. Ac roedd llawer o godi arian wedi'i wneud yn y gymuned a oedd yn help enfawr. Roedd yn braf peidio â gorfod poeni am hynny yn ogystal â phopeth arall oedd yn digwydd."

Yn ystod cyfnod y cyfyngiadau mae Erin yn cadw mewn cysylltiad dros y ffôn gyda meddygon Harley yn Ysbyty Treforus. Yn y dyfodol bydd yn cael mwy o driniaeth i helpu i leddfu'r creithio a gwella ei symudedd.

Ond ar ôl colli Zac a'r ofnau gwreiddiol ynglŷn â Harley ei hun, mae ei weld yn chwarae eto gartref ac yn gwneud cynnydd yn rhyddhad enfawr i Erin a'r teulu.