Ymbellhau 'wedi atal Covid-19 yn y gorllewin'
- Cyhoeddwyd
Mae microbiolegydd sydd yn gweithio i Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi dweud wrth BBC Cymru bod "ymbellhau yng nghefn gwlad" wedi llwyddo i atal Covid-19 rhag lledu yng ngorllewin Cymru.
Mae Dr Mike Simmons, ymgynghorydd ym maes Iechyd Cyhoeddus, wedi cyfaddef bod lledaeniad Coronafeirws wedi bod yn "hollol wahanol" i'r hyn oedd wedi ei ragweld yn wreiddiol, gyda phryder y byddai yna benllanw mawr o achosion.
Yng Ngheredigion, mae'r ystadegau presennol yn dangos bod yna 57.5 achos o Coronavirus ym mhob 100,000 o'r boblogaeth. Mae hynny'n cymharu gyda 643 o achosion i bob 100,000 ym Merthyr Tudful a 655 i bob 100,000 yn Rhondda Cynon Taf.
Mae'r ffigurau wedi bod yn uwch yn Sir Gâr (386 / 100,000) ac yn Sir Benfro (222.3 / 100,000) sydd hefyd yn rhan o ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Ymbellhau naturiol yn y wlad
Yn ôl Dr Simmons, mae'r dwysedd poblogaeth is a'r ymbellhau naturiol yng nghefn gwlad wedi chwarae rhan allweddol.
"Mae ymbellhau gwledig yn nodwedd amlwg," meddai.
"Mae llai o bobl o gwmpas, ac mae'r ardaloedd gwledig ar ei hôl hi o ran lledaeniad y feirws. Mae hynny yn golygu ein bod ni wedi medru paratoi.
"Roedd pobl yn ymbellhau cyn iddo gyrraedd yma."
Dyw Dr Simmons ddim yn rhagweld ail benllanw o achosion, ond mae'n rhybuddio y bydd rhai achosion yn parhau mewn cartrefi gofal a ble mae pobl yn ymgynnull.
"Dwi ddim yn rhagweld ail don o achosion. Mae pobl yn bod yn gyfrifol.
"Rwy'n rhagweld y byddwn ni dal i weld achosion mewn cartrefi gofal neu westai, ond rwy'n meddwl y bydd yn edwino ac yn y pendraw yn diflannu."
Angen bod yn wyliadwrus
Mae e wedi annog pobl i fod yn wyliadwrus ac i gymryd "cyfrifoldeb personol" ac "asesu risg".
Mae'n rhagweld y bydd achosion o Coronafeirws yn parhau i leihau os ydy pobl yn wyliadwurus:
"Fy marn bersonol i yw y bydd y feirws yma yn diflannu yn sydyn iawn, ond mae'n rhaid i ni fod yn wyliadwrus a chynllunio ar gyfer sefyllfa wahanol. Rwy'n meddwl y bydd yn diflannu ac fe fyddwn ni yn medru rhoi ochenaid o ryddhad, ond mae'n bosib fy mod i'n anghywir."
LLIF BYW: Y newyddion diweddaraf
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mai 2020
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd13 Mai 2020