'Angen osgoi codi cywilydd ar bobl sydd heb fygydau'

  • Cyhoeddwyd
gwisgo mygydauFfynhonnell y llun, Getty Images

Y peth olaf y mae Cymru ei hangen nawr yw creu diwylliant o "godi cywilydd" ar bobl sydd ddim yn gwisgo mygydau, yn ôl Prif Swyddog Meddygol Cymru.

Cymru yw'r unig wlad yn y DU sydd heb argymell y dylai pobl wisgo mygydau er mwyn atal lledaeniad coronafeirws.

Ond wrth siarad â'r BBC, dywedodd Dr Frank Atherton fod manteision eu gwisgo wedi cael ei or-bwysleisio i raddau, a bod anfanteision ymarferol ynglŷn â'u gwisgo hefyd.

Ychwanegodd nad oedd am weld "diwylliant o ddrwgdybiaeth" yn cael ei greu o gwmpas y mater.

'Glendid yn bwysicach'

Dywedodd bod glendid sylfaenol ac ymbellhau cymdeithasol yn gallu gwneud mwy o wahaniaeth wrth leihau'r risg o ddal yr haint na gorfodi pobl i wisgo mygydau.

"Fy nghyngor i yw y dylai pobl eu gwisgo nhw os ydyn nhw'n dewis gwneud hynny, ond na ddylai fod yn orfodol," meddai wrth siarad ar BBC Radio Wales.

"Ddylen ni ddim bod yn dweud fod rhaid i bobl wisgo mygydau yma yng Nghymru, ond yn amlwg mae ganddyn nhw'r hawl i wneud hynny os ydyn nhw'n dewis."

Dywedodd fod y manteision o wisgo mygydau yn "eithaf bychan".

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Frank Atherton y gallai gofyn i'r cyhoedd wisgo masgiau hefyd olygu bod llai o offer ar gael ar gyfer gweithwyr iechyd

Roedd y grŵp cynghori SAGE wedi dod i'r casgliad fod yna "fantais fechan ond bod hynny'n seiliedig ar dystiolaeth wan iawn".

Ond rhybuddiodd Dr Atherton na ddylai pobl sydd â symptomau coronafeirws feddwl y gallen nhw wisgo mwgwd a gadael y tŷ.

"Mi fyddai hynny'n beryglus dros ben. Dylai pobl sydd â symptomau fod yn aros adref," meddai.

"Mae yna risg hefyd y bydd pobl yn dechrau defnyddio cyflenwadau [o fygydau] a ddylai fod yn mynd i'r gwasanaeth iechyd, a fedrwn ni ddim peryglu cyflenwadau offer diogelwch PPE y GIG.

"Y trydydd pwynt yw fy mod yn poeni'n arw am greu awyrgylch o ddrwgdybiaeth.

"Y peth olaf y mae Cymru ei hangen nawr yw creu rhyw fath o ddiwylliant o "godi cywilydd" ar bobl os nad ydyn nhw'n gwisgo mygydau.

"Mae'n rhaid canolbwyntio ar fesurau glendid sylfaenol ac ymbellhau cymdeithasol, peidio cyffwrdd ein hwynebau pan fedrwn ni osgoi hynny, a chadw pellter.

"Dyma ydy'r pethau allai wneud gwahaniaeth, ac nid dibynnu ar orfodi pobl i wisgo mygydau."