Marwolaeth Llyn Tegid: Cyhoeddi enw dyn
- Cyhoeddwyd

Y gwasanaethau brys ar lannau Llyn Tegid wedi'r digwyddiad
Mae crwner Gogledd Orllewin Cymru, Dewi Pritchard-Jones, wedi cyhoeddi enw'r dyn fu farw ar ôl mynd i drafferthion yn Llyn Tegid ddydd Iau.
Roedd Philip Gooderham yn 53 oed ac yn dod o Lannau Dyfrdwy.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd ei fod wedi marw yn yr ysbyty wedi iddo fynd i drafferthion yn y llyn ger Y Bala.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yno tua 16:50.
Cafodd Mr Gooderham ei dynnu o'r dŵr a'i gludo i Ysbyty Gwynedd mewn ambiwlans awyr.
Dyw'r farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mai 2020