Caniatáu rasio ceffylau i ail ddechrau yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Bydd rasio ceffylau ar gyrsiau Cymru yn cael ail ddechrau, gyda'r ras gyntaf i gymryd lle yng Nghas-gwent ar 15 Mehefin.
Fe fydd y cyfarfod cyntaf tu ôl i ddrysau caeedig gyda rasio ym Mangor-is-y-Coed i ddechrau ym mis Gorffennaf.
Ym mis Hydref y bydd rasio yn Ffos Las yn ail ddechrau.
Mae'r Awdurdod Rasio Ceffylau Prydeinig, sydd yn rheoleiddio rasio ceffylau, wedi cyhoeddi protocolau ar gyfer ail ddechrau rasio ceffylau.
Mae'r canllawiau yn nodi pwy sydd yn cael bod yn bresennol yn y cyrsiau a bydd swyddogion y sicrhau bod pellhau cymdeithasol yn cael ei weithredu.
"Bydd 'na dipyn o waith i bawb ei wneud er mwyn addasu i sut ydym yn cynnal cyfarfodydd a cydymffurfio gyda'r gofynion diogelwch llym," meddai cyfarwyddwr gweithredol Cas-gwent a Ffos Las, Phil Bell.
Cafodd y ras gyntaf yn Lloegr ers mis Mawrth ei chynnal yn Newcastle ddydd Llun.