Covid-19: Galw am ymchwiliad i ymateb Llywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwrthbleidiau yn galw am ymchwiliad annibynnol ynghylch sut y mae Llywodraeth Cymru wedi delio â phandemig Covid-19 i adrodd ei ganfyddiadau cyn etholiad y Senedd yn 2021.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud fod yr amseru'n bwysig fel y gall gweinidogion "gael eu dwyn i gyfrif" gan y cyhoedd.
Oherwydd cyfyngiadau amser, mae Plaid Cymru a Phlaid Brexit ond yn galw am adroddiad dros dro cyn y bleidlais ym mis Mai nesaf.
Mae gweinidogion wedi cadarnhau eu bod yn cytuno y dylai ymchwiliad cyhoeddus gael ei gynnal, ond dywedodd y Cwnsler Cyffredinol Jeremy Miles y dylai fod yn rhan o ymchwiliad i'r ymateb ledled y DU.
Ychwanegodd nad dyma'r amser cywir i wneud penderfyniad ynglŷn ag amseriad yr ymchwiliad.
Cytuno i'r egwyddor
Roedd y prif weinidog eisoes wedi cefnogi'r egwyddor o sefydlu "ymchwiliad cyhoeddus annibynnol" fis diwethaf.
Ar 20 Mai, mewn ymateb i gwestiwn gan arweinydd Plaid Cymru Adam Price, dywedodd Mark Drakeford: "Ni allaf ragweld pryd fydd hynny, ond yr egwyddor y mae Mr Price wedi'i hamlinellu - rwy'n hapus iawn i gadarnhau fy nghefnogaeth i'r egwyddor honno."
Roedd y ddadl dan arweiniad y Ceidwadwyr Cymreig mewn cyfarfod digidol o'r Senedd ddydd Mercher yn ymgais i sicrhau ymrwymiadau pellach gan Lywodraeth Cymru ar fanylion unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol.
Mae'r Torïaid yn galw am "ymchwiliad annibynnol dan arweiniad barnwr wedi'i benodi gan Senedd Cymru… i gael ei gychwyn ar ddyddiad priodol, pan fydd y pandemig dan reolaeth, ac i ddod i ben cyn etholiad nesaf Senedd Cymru".
Dywedodd Paul Davies, arweinydd y blaid yn y Senedd: "Mae'n hanfodol bod yr ymchwiliad hwn yn agored ac yn dryloyw, ac yn gwbl annibynnol o Lywodraeth Cymru i sicrhau hyder y cyhoedd yn y broses.
"Rhaid cyhoeddi canfyddiadau allweddol unrhyw ymchwiliad cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl, cyn etholiad nesaf Senedd Cymru, fel y gellir dwyn y gweinidogion hynny sy'n gyfrifol am ymateb Llywodraeth Cymru i'r argyfwng i gyfrif.
"Y peth olaf sydd ei angen arnom yw ymholiad a reolir gan wleidyddion sy'n llusgo ymlaen am flynyddoedd."
Galw am 'ddechrau nawr'
Dywedodd Mandy Jones o Blaid Brexit fod yn rhaid i'r ymchwiliad "gael ei arwain a'i benodi gan y Senedd" ac nad yw'r blaid yn "cefnogi ymgais Llywodraeth Cymru i reoli'r ymchwiliad".
Mae Plaid Cymru wedi galw ers tro am ymchwiliad cyhoeddus i ddechrau ar unwaith fel y gellir dysgu gwersi "i lywio ymatebion gwell yn y dyfodol ac er mwyn gwella'r broses o wneud penderfyniadau".
Dywedodd arweinydd y blaid, Adam Price AS: "Dylai'r broses o sefydlu ymchwiliad annibynnol dan arweiniad barnwr i ymdriniaeth Llywodraeth Cymru o argyfwng coronafeirws ddechrau nawr, gydag adroddiad cychwynnol ar ei ganfyddiadau i'w gyflwyno cyn etholiadau Senedd y flwyddyn nesaf.
"Dylai ymchwiliad i'r modd y gwnaeth Llywodraeth San Steffan ymdrin â phandemig Covid-19 hefyd fod yn rhedeg ochr yn ochr ag unrhyw ymchwiliad yng Nghymru."
Er eu bod yn cefnogi'r syniad cyffredinol o ymchwiliad cyhoeddus, byddai newidiadau arfaethedig Llywodraeth Lafur Cymru i'r cynnig gerbron y Senedd ddydd Mercher yn dileu unrhyw ymrwymiad iddo gael ei arwain gan farnwr wedi'i benodi gan y Senedd, a'i fod yn cael ei gwblhau cyn etholiad y Senedd yn 2021.
Mae adroddiad a gomisiynwyd gan Blaid Cymru i ymdriniaeth Llywodraeth Cymru o'r pandemig wedi dod i'r casgliad "ei bod yn rhy gynnar i ddeall yn iawn effaith yr holl benderfyniadau a wnaed hyd yma, ond mae'n amlwg hefyd bod rhai penderfyniadau wedi arwain at effeithiau niweidiol ar bobl a'u cymunedau yng Nghymru".
Cymru wedi 'colli cyfle'
Dywedodd Dr Camilla Ducker, meddyg teulu ac ymgynghorydd i Sefydliad Iechyd y Byd: "Roedd y penderfyniad i roi'r gorau i brofi ac olrhain cymunedol wedi mynd yn groes i'r neges 'profi, profi, profi', sef neges gyson Sefydliad Iechyd y Byd ar y pryd.
"Trwy roi'r gorau i brofi ac olrhain cymunedol ar gyfer Covid-19, fe gollodd Cymru'r gallu i ddeall y lledaeniad a'r gallu i'w reoli.
"Fe ddylid ystyried y materion yma wrth i gynlluniau gael eu gwneud ar gyfer y camau nesaf wrth ymateb i Covid-19, gan gynnwys ceisio lliniaru'r risg real o ail don o achosion."
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd6 Mai 2020