Hiliaeth 'yn gyffredin ac yn cynyddu' mewn ysgolion
- Cyhoeddwyd

Mae'r elusen yn cynnal gweithdai gwrth-hiliaeth i dros 20,000 o bobl ifanc bob blwyddyn
Mae hiliaeth mewn ysgolion ledled Cymru yn gyffredin ac yn cynyddu, yn ôl ymchwil diweddaraf yr elusen gwrth-hiliaeth Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth (DCCiH).
Yn ôl y canfyddiadau, sydd dilyn ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth, mae "cannoedd o ddiwrnodau ysgol yn cael eu colli, a nifer fawr o ddisgyblion yn cael eu gwahardd o ysgolion oherwydd hiliaeth".
Mae athrawon a staff cynorthwyol hefyd wedi mynegi pryder nad ydyn nhw wedi cael hyfforddiant addas i ddelio ag achosion o hiliaeth.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford y bydd Llywodraeth Cymru'n "edrych yn fanwl" ar yr adroddiad.
Prif gasgliadau
O blith 1,058 o ymatebwyr, roedd un o bob pedwar athro a chynorthwyydd addysgu wedi profi digwyddiad hiliol yn eu hysgol yn y 12 mis diwethaf, gan gynnwys:
Merched Blwyddyn 5/6 yn tynnu hijab plentyn arall;
Disgyblion Blwyddyn 4 yn dweud na fydden nhw'n dymuno "eistedd wrth ymyl dyn du ar fws";
Disgybl Blwyddyn 8 yn cael ei alw'n 'n****r' a disgybl arall o'r un oedran sy'n perthyn i'r gymuned deithiol yn cael ei alw'n "sipsiwn";
Disgyblion yn rhoi saliwt Natsïaidd i ddisgybl Blwyddyn 7 oedd newydd symud i'r ardal o'r Almaen;
Disgyblion yn ymddangos yn anymwybodol bod termau fel "Paci" a "goliwog" yn sarhaus;
Bachgen Blwyddyn 11 yn gofyn i fachgen arall a oedd yn gaethwas;
Bachgen Blwyddyn 10 yn dweud wrth ferch bod ei thad Islamaidd yn derfysgwr;
Jôcs hiliol a sylwadau anwybodus am fewnfudo a cheiswyr lloches, sylwadau am liw croen a chenedligrwydd disgyblion;
Sylw hiliol gan ddisgybl Blwyddyn 2 am aelod o staff sy'n dod o Groatia.

Roedd yna gynnydd o 19% mewn gwaharddiadau yn 2018/19 o gymharu â 2017/18, gan gynnwys dau waharddiad parhaol
Gwir raddfa'r broblem
Mae'n "siomedig", medd rheolwr ymgyrch DCCiH, Sunil Patel, fod y sefyllfa wedi gwaethygu ers i adroddiad diwethaf yr elusen, yn 2016, amlygu "lefelau pryderus o hiliaeth" mewn ysgolion.
"Mae'n destun pryder nad yw hyd yn oed hanner o awdurdodau lleol yn cofnodi nifer y digwyddiadau hiliol mewn ysgolion ac felly, mae'n debygol iawn nad ydyn nhw'n ymwybodol o wir raddfa'r broblem," meddai.
"Dywedodd 77% o'r disgyblion wrthym fod hiliaeth yn bodoli yn eu hysgolion, a chyfaddefodd 30% eu bod wedi defnyddio iaith hiliol yn yr ysgol."
Ansicrwydd staff
Yn ôl yr elusen, fe amlygodd ymatebion athrawon a chynorthwywyr dysgu "ddiffyg hyder, hyfforddiant a chefnogaeth ymhlith y gweithlu".
Mae staff yn ansicr wrth gofnodi achosion o wahaniaethu ar sail hil, a bron 75% heb gael hyfforddiant gwrth-hiliaeth.
Roedd rhai'n poeni fod uwch reolwyr ddim yn cymryd achosion ddigon o ddifri' gyda'r canlyniad "nid yw cosbau troseddwyr mynych yn ddigon llym".
Dywedodd un ymatebwr: "Mae uwch reolwyr yn mynegi safbwyntiau gwrth-Islam yn agored gyda neb yn dweud unrhyw beth am hynny."

Fe wnaeth 1,058 o athrawon a chymorthyddion dysgu gyfrannu i arolwg yr elusen
Mae DCCiH yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal eu hymchwiliad eu hunain i'r pwnc ac ariannu hyfforddiant gwrth-hiliaeth ar gyfer holl athrawon a chymorthyddion dysgu yng Nghymru.
Mae Mark Drakeford wedi croesawu'r adroddiad.
Dywedodd fod dim lle i hiliaeth yng Nghymru a bod "plant a phobl ifanc yn mynd i'r ysgol i ddysgu, tyfu a gwneud ffrindiau, nid i ddelio ag anffafriaeth yn y buarth neu'r dosbarth".
"Fe edrychwn yn fanwl ar yr adroddiad," ychwanegodd, "a pharhau i gefnogi ysgolion ac awdurdodau lleol i greu amgylchedd iach ble gall pob plentyn a pherson ifanc ffynnu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2019