Galw ar brifysgolion i ymateb i achosion o hiliaeth
- Cyhoeddwyd
Dyw prifysgolion yng Nghymru ddim yn perfformio yn well na phrifysgolion yn Lloegr a'r Alban wrth atal neu ymateb i achosion o hiliaeth, yn ôl ymchwiliad diweddar.
Dywed y Comisiwn Cyfiawnder a Hawliau Dynol nad yw prifysgolion mewn gwirionedd yn ymwybodol o faint o broblem yw hiliaeth ar y campws.
Fe wnaeth myfyrwyr mewn prifysgolion yng Nghymru rannu eu profiadau o boenydio hiliol mewn adroddiad "damniol" ar addysg uwch.
Mewn ymateb dywed prifysgolion yng Nghymru fod mynd i'r afael â'r broblem yn "brif flaenoriaeth" a bod angen cymryd "camau brys".
Fe wnaeth y Comisiwn Cyfiawnder a Hawliau Dynol hefyd gyfeirio at adroddiadau o sylwadau gwrth-Seisnig mewn prifysgolion yng Nghymru a'r Alban, ynghyd â sylwadau trahaus am Sipsiwn a'r gymuned o Deithwyr.
Roedd sylwadau yn yr adroddiad gan staff gwyn Prydeinig ynglŷn â sylwadau gwrth-Seisnig mewn prifysgolion yng Nghymru.
Myfyrwyr 'mwy amrywiol' yn Lloegr
Dywed yr adroddiad fod nifer y digwyddiadau yn ymwneud â phoenydio hiliol yn is mewn prifysgolion yng Nghymru nag yn Lloegr - 6% o'i gymharu â 15%.
Dywed y Comisiwn mai'r rheswm mwyaf tebygol am hyn oedd bod poblogaeth myfyrwyr yn fwy amrywiol yn Lloegr.
Yn ôl yr adroddiad, roedd yna wahaniaeth mawr rhwng nifer y myfyrwyr oedd wedi dioddef poenydio hiliol, o'i gymharu â'r rhai wnaeth gofnodi'r digwyddiadau, a'r nifer o gwynion gafodd eu cofnodi gan y prifysgolion.
Mae'r adroddiad yn dweud mai dim ond un ym mhob tri o'r rhai wnaeth ddioddef poenydio yn nhymor academaidd 2018/19 wnaeth sôn wrth eu prifysgol.
Yn ôl yr adroddiad y rhwystr mwyaf o ran cofnodi oedd "diffyg hyder yn eu prifysgol".
Dywed yr adroddiad mai un "rhwystr amlwg yw diffyg gwybodaeth, sgil a hyder y staff wrth ddeall anghydraddoldeb hiliol a phoenydio hiliol".
Yn ôl Ruth Coombs, pennaeth Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru, roedd poenydio hiliol yn rhywbeth cyffredin i nifer o fyfyrwyr a staff mewn prifysgolion yng Nghymru.
Mae'r Comisiwn yn galw ar sefydliadau yn y sector addysg uwch i ymateb i atal poenydio o'r fath ac i sicrhau gwelliannau i'r drefn o gwyno.
'Newid mewn diwylliant'
Dywedodd Julie Lydon, Cadeirydd Prifysgolion Cymru ei bod yn bwysig fod sefydliadau addysg uwch yn edrych yn fanwl ar argymhellion yr adroddiad gan gymryd "camau brys a phendant".
"Does yna ddim lle o gwbl i boenydio hiliol mewn prifysgolion nag yn unman arall," meddai.
"Fe fydd prifysgolion Cymru yn gweithio yn agos gyda Cyngor Cyllido Addysg uwch Cymru (HEFCW) a llywodraeth Cymru i helpu prifysgolion i gymryd camau brys ac effeithiol i atal ac i ymateb i boenydio hiliol."
Dywedodd prif weithredwr HEFCW, Dr David Blaney, fod yr adroddiad yn hynod o bwysig: "Rydym yn disgwyl i arweinwyr prifysgolion a'r llywodraethwyr i arwain y newid, i sicrhau fod gwersi yn cael eu dysgu o'r gwaith ymchwil gan y Comisiwn a bod hyn arwain at newidiadau sy'n cael eu hadlewyrchu yn niwylliant y sefydliadau."
Ychwanegodd y byddai HEFCW ynghyd â Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo'r prifysgolion i fynd i'r afael â'r newidiadau sydd eu hangen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2018