Busnesau'n gofyn am ddyddiad i ailagor siopau

  • Cyhoeddwyd
arwydd

Mae arwerthwyr nwyddau sydd ddim yn hanfodol yn rhwystredig nad oes dyddiad wedi ei bennu iddyn nhw ailagor yng Nghymru.

Maen nhw'n paratoi i ailagor eu drysau, ond er bod Llywodraeth y DU wedi dweud y caiff siopau o'r fath agor ar 15 Mehefin, bydd Llywodraeth Cymru'n diweddaru eu canllawiau ar 18 Mehefin yn seiliedig ar y dystiolaeth.

Mae Consortiwm Manwerthu Cymru yn galw am fwy o sicrwydd, gan gynnwys dyddiad penodol gan weinidogion Cymru.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru annog busnesau i baratoi am ailagor drwy osod y mesurau angenrheidiol mewn lle.

Disgrifiad o’r llun,

Sara Jones yw pennaeth Consortiwm Manwerthu Cymru

Dywedodd pennaeth y Consortiwm, Sara Jones: "Ry'n ni angen gwybod os yw'r ffigwr 'R' yn ddigon isel a bod canllawiau iechyd yn caniatáu bod gyda ni ddyddiad i anelu tuag ato.

"Dyna beth sydd yn Lloegr, ac mae'n rhywbeth sydd ei angen yng Nghymru er mwyn darparu rhyw fath o sicrwydd i'n haelodau.

"Ry'n ni'n gweithio'n galed o gwmpas canllawiau diogelwch... mae hynny eisoes mewn lle."

Mae'r diwydiant manwerthu yng Nghymru yn cyflogi oddeutu 190,000 o bobl ac yn cyfrannu £6.2bn y flwyddyn i economi Cymru yn ôl Ystadegau Cymru.

Mae hynny'n cyfateb i 9.5% o werth y nwyddau a gwasanaethau sy'n cael eu cynhyrchu gan fusnesau yma.

Fel sawl siop arall, mae siop gemau A Better World ym Merthyr Tudful wedi gweld cynnydd mewn archebion ar-lein yn y cyfnod cloi.

Er bod hynny wedi cadw'r busnes ar ei draed, nid yw wedi bod yn ddigon i osgoi colledion.

Dywedodd y perchennog Paul Thomas ei fod yn deall pam nad oedd gweinidogion yn medru rhoi dyddiad penodol i ailagor, ond nawr fe fyddai'n hoffi cael mwy o fanylion wrth iddo baratoi'r siop i dderbyn cwsmeriaid unwaith eto.

"Mae'n amwys iawn ar wefan Llywodraeth Cymru o safbwynt faint o bobl gewch chi mewn i'r siop," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Paul Thomas yn dymuno mwy o wybodaeth wrth baratoi i ailagor ei siop

"Mae'n dweud beth yw'r pellter sy'n rhaid cadw rhyngddyn nhw, ond cofiwch am ardaloedd lle fydd rhaid i bobl basio'i gilydd.

"Fe fyddai'n braf bod yn fwy clir am hynny, ond mae'n rhywbeth y gallwn ni weithio arno a'i ddatrys."

Ychwanegodd bod rhannau eraill o'r canllawiau yn ddefnyddiol a'i fod eisoes wedi gosod rhai mesurau mewn lle.

"Yr hyn sy'n aneglur ar hyn o bryd yw sut y bydd cwsmeriaid yn teimlo am ddychwelyd i siopau," meddai Mr Thomas.

"Mae tystiolaeth o wledydd eraill lle mae'r cyfnod cloi wedi dod i ben yn awgrymu nad yw cwsmeriaid yn prysuro i fynd yn ôl i'r hen drefn."