Ymchwiliad i effaith Covid-19 ar leiafrifoedd ethnig

  • Cyhoeddwyd
Person du yn golchi dwyloFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r argyfwng wedi codi cwestiynau pwysig am anghydraddoldebau strwythurol hirdymor ym Mhrydain, medd y Comisiwn

Bydd ymchwiliad statudol yn cael ei gynnal gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru i'r anghydraddoldebau hiliol sydd wedi dod i'r amlwg yn sgil y pandemig coronafeirws.

Mae pryder ers rhai wythnosau bod nifer anghymesur o bobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yn dioddef yn sgil y feirws o gymharu â phoblogaeth Cymru gyfan.

Dywedodd Faith Walker, aelod o'r Comisiwn yng Nghymru: "Mae'r Comisiwn yn bwriadu defnyddio'i bwerau statudol i fynd i'r afael â'r marwolaethau a'r golled i fywoliaethau ymhlith pobl o gefndiroedd ethnig gwahanol."

Mae'r Comisiwn hefyd yn ymateb i "faterion penodol o ran y pandemig sy'n effeithio rhai lleiafrifoedd ethnig, yn cynnwys darogan graddau addysgol a pholisïau dychwelyd i'r gwaith".

Mae hefyd wedi argymell "cyfres gadarn o bolisïau" i'r Prif Weinidog, Mark Drakeford ac i bwyllgor llywio BAME Llywodraeth Cymru.

Dywed y Comisiwn "mai nawr yw'r amser" i edrych i wahanol ffactorau ac argymell camau brys mewn ymateb i "anghydraddoldebau hiliol sydd wedi hen sefydlu" yng Nghymru.

Bydd y comisiwn yn cwrdd ag arweinwyr o fewn y sector BAME a cyn cyhoeddi manylion maes gorchwyl yr ymchwiliad yn yr wythnosau nesaf.

Wrth alw yn y gorffennol ar Lywodraeth Cymru am strategaeth i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau hiliol, mae'r Comisiwn wedi pwysleisio'r angen i edrych ar faterion addysg, cyflogaeth, iechyd, tai, chyfiawnder troseddol a'r system fewnfudo.

Dywed y Comisiwn fod trin pobl o amryw leiafrif ethnig "yn llai teg ymhob ffordd mewn bywyd" yn "cael effaith sylweddol ar draws y cenedlaethau ar eu cyfleoedd i lwyddo a ffynnu".

Ychwanegodd fod angen i gyrff gydweithio i sicrhau "gwlad fwy cyfartal a theg ble gall pob unigolyn wireddu'u potensial a ffynnu".