Heddlu'n anfon 1,000 o geir adref o'r Bannau mewn deuddydd

  • Cyhoeddwyd
bannauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhai pobl wedi teithio i'r Bannau o Lundain, medd yr heddlu

Cafodd mwy na 1,000 o geir eu hanfon o Fannau Brycheiniog mewn deuddydd am dorri rheolau'r cyfyngiadau.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod llawer o'r bobl wnaeth swyddogion siarad â nhw yn dod o Loegr ac nad oedden nhw'n ymwybodol bod y rheolau'n wahanol yng Nghymru.

Gall pobl yn Lloegr deithio pellter diderfyn o'u cartref. Yng Nghymru mae'n gyfyngedig i bum milltir.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys, nad oedd nifer y ceir yn syndod.

"Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwrando ar y canllawiau ac mae'n anffodus iawn bod gennym filoedd o bobl yn teithio pellteroedd maith i fynd i lefydd fel Pen-y-Fan neu arfordir Penfro. Ar hyn o bryd maen nhw'n dal wedi cau," meddai ar raglen Post Cyntaf ddydd Gwener.

"Mae gennym bobl yn teithio o Gaerdydd a'r cymoedd i ardal Heddlu Dyfed Powys. Rydym hefyd yn cael pobl yn croesi'r ffin. Dwi'n teimlo'n sori dros y bobl hynny.

"Yn y lle cyntaf mae'r heddlu'n ceisio addysgu pobl sy'n dod dros y ffin am nad yw'r neges sy'n dod o'r llywodraeth ganolog ddim wedi bod yn glir iawn.

"Ar rai adegau mae'n amhosib i'r heddlu wneud unrhyw beth ond rhoi dirwyon.

"Y neges glir ar hyn o bryd yw fod Pen-y-Fan wedi cau. Bydd yr holl lefydd prydferth hyn yn dal yno ymhen ychydig wythnosau neu fisoeddd."

Dywedodd yr Uwcharolygydd Steve Davies fod dirwyon yn cael eu rhoi os oedd pobl wedi "torri'r rheolau yn amlwg".

Dywed yr heddlu fod llawer o'r rhai gafodd eu stopio y penwythnos diwethaf yn honni eu bod yn credu bod y rheolau yng Nghymru yr un fath ag yn Lloegr ac yn dod o lefydd mor bell â Llundain a chanolbarth Lloegr.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn cael eu cadw'n brysur oherwydd nifer y bobl sy'n ceisio gyrru i'r ardal o amgylch Ystradfellte, Powys.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae wardeiniaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi bod yn plismona'r ardal hefyd

Ychwanegodd y llu, sy'n cynnwys rhai o ardaloedd mwyaf gwledig Cymru, hefyd fod 72% o'r bobl a adroddwyd am dorri cyfyngiadau Covid-19 ym Mhowys ers 27 Mawrth wedi bod o'r tu allan i ardal yr heddlu.

Yn ôl yr Uwcharolygydd Steve Davies, bydd swyddogion yn parhau i gynnal gwiriadau stopio ledled Powys ac ar draws ardal yr heddlu y penwythnos hwn.

Mae tri pharc cenedlaethol Cymru a holl safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn parhau ar gau i'r cyhoedd yn ystod y cyfnod cloi, er bod Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi dweud y bydd rhannau o'r parc yn agor o ddydd Llun.