Coronafeirws yn 'her enfawr' i Lywodraeth Cymru

  • Cyhoeddwyd
Zoom
Disgrifiad o’r llun,

Gweinidogion Cymru'n cynnal cyfarfod dros Zoom yn ddiweddar

Mae ymateb i argyfwng y coronafeirws wedi bod yn "her enfawr", yn ôl prif was sifil Cymru.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Parhaol Shan Morgan fod tua 80% o staff Llywodraeth Cymru bellach yn gweithio ar agwedd o Covid-19.

Ychwanegodd fod y sefydliad wedi addasu "yn rhyfeddol o gyflym".

Dywedodd Prif Weinidog Cymru nad oedd y pandemig "fel unrhyw beth rydyn ni wedi gorfod ei wynebu".

Cafodd BBC Cymru ganiatâd i fynd y tu ôl i'r llenni ym mhencadlys y llywodraeth ym Mharc Cathays i weld sut mae'r argyfwng wedi effeithio ar ei gwaith, a sut mae'r ymateb i'r pandemig yn cael ei reoli.

95% yn gweithio gartref

Fel arfer byddai 2,500 o bobl yn gweithio yn yr adeilad, ond dim ond llond llaw sy'n dal i fod yno ac mae mesurau pellhau cymdeithasol wedi'u cyflwyno drwyddo draw.

"Rydyn ni'n credu bod tua 95% o'n staff nawr yn gweithio'n dda iawn o gartref," meddai Ms Morgan.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Shan Morgan wedi bod yn Ysgrifennydd Parhaol Cymru ers 2017

Felly faint o her ydy'r argyfwng?

"Cael pethau'n iawn i sicrhau ein bod yn gofalu am bobl Cymru, nad ydym yn llethu gallu'r gwasanaeth iechyd… mae honno'n her enfawr oherwydd ei bod yn her bywyd a marwolaeth," meddai Ms Morgan.

"Rwy'n falch iawn o'r ffordd y mae pawb yn Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda'n holl randdeiliaid, wedi ymateb i'r her aruthrol honno."

'Mwy ystwyth mewn rhai ffyrdd'

Dywedodd Prif Weinidog Cymru fod yr argyfwng wedi newid y ffordd y mae'r llywodraeth yn gweithio, gydag ychydig iawn o weinidogion yn mynd i'r swyddfa yn rheolaidd a chyfarfodydd dyddiol yn cael eu cynnal dros Zoom.

"Mewn rhai ffyrdd rydyn ni'n fwy ystwyth wrth weithio fel hyn," meddai Mark Drakeford.

Ond i'r gweinidogion hynny sydd ddim yn mynd i mewn i'r swyddfa "mae yna golled eithaf mawr sy'n dod heb unrhyw gyswllt wyneb yn wyneb".

Disgrifiad o’r llun,

Mae pencadlys y llywodraeth yn le prysur fel arfer, ond bellach mae 95% o'r staff yn gweithio gartref

"Mae galwadau Zoom yn dda iawn mewn sawl ffordd ac maen nhw'n canolbwyntio ar y busnes, ond y pethau llai ffurfiol yna sy'n digwydd o amgylch cyfarfod - y cwpl o funudau yna ble gallwch chi siarad â rhywun, trafod rhywbeth - does dim o hynny yn digwydd yn y ffordd rydyn ni'n gweithio nawr, ac mae hynny'n golled a all wneud busnes y llywodraeth ychydig yn fwy anodd," meddai Mr Drakeford.

"Alla' i ddim meddwl am unrhyw beth tebyg mewn 20 mlynedd o ddatganoli.

"Rydyn ni wedi cael nifer o heriau mawr dros y blynyddoedd: roedd clwy'r traed a'r genau yn her enfawr mewn rhannau o Gymru… ni ddaeth Ebola yn broblem yma yng Nghymru, ond roedd y bygythiad yn real.

"Ond mae hwn yn argyfwng iechyd cyhoeddus sydd wedi cyrraedd ac sydd wedi gwneud ein bywydau ni - pob un ohonom - yn hollol wahanol ac nid yw fel unrhyw beth arall rydyn ni wedi gorfod ei wynebu."

Politics Wales, BBC One Wales am 10:15 ddydd Sul, 7 Mehefin, ac yna ar iPlayer.