Twf y Gymraeg mewn gemau fideo poblogaidd

  • Cyhoeddwyd
Gemau fideoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynnydd o dros 20% wedi bod mewn defnydd wythnosol o gemau ers dechrau cyfyngiadau Covid-19

Wrth i fwy o bobl droi at gemau fideo i ddianc i fyd gwahanol am ychydig yn ystod y pandemig coronafeirws, gemau fel Animal Crossing a Fortnite sydd wedi hawlio llawer o'r sylw.

Ond mae 'na rai sy'n ceisio datblygu cymuned Gymraeg ym myd y gemau fideo - ac yn meddwl y gall hyn helpu i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Ym mis Ebrill, yng nghanol y pandemig, cafodd gêm newydd ei rhyddhau gan gwmni Pug Fugly Games o Gaerdydd.

Ffynhonnell y llun, Pug Fugly Games

Swyddog digidol gyda Menter Iaith Caerffili, Morgan Roberts, gyfieithodd Destructivator 2 i'r cwmni. Roedd yn frwdfrydig i weld mwy o gynnwys Cymraeg mewn gemau fideo.

"O'n i wedi gwerthu'r ffaith bod cyfieithu'r gêm yn gyfle gwych iddo fe gael mwy o bobl a byddai'n beth positif iddo fe allu gwerthu'r gêm," meddai.

Mae Morgan wedi bod yn ceisio gwthio'r iaith Gymraeg mewn gemau fideo ers blynyddoedd, ac yn danfon gwybodaeth allan i ddatblygwyr i geisio cael mwy o gemau wedi eu cyfieithu.

Datblygwyr y dyfodol

Yn ôl y gwaith ymchwil diweddaraf gan Miller Research, mae yna 79 o ddatblygwyr gemau fideo yng Nghymru, a gyda chyrsiau ar gael ym mhrifysgolion fel Glyndŵr a De Cymru, mae Morgan yn meddwl bod yna gyfle da i gyrraedd datblygwyr y dyfodol.

"Dechrau fan yna i blannu'r hadau o'r syniad o gael fersiwn Cymraeg. Achos i lot ohonyn nhw, so' nhw gydag unrhyw negatif ynglŷn â defnyddio'r Gymraeg ond does neb byth wedi gofyn iddyn nhw," meddai.

"Mae rhai pobl yn anwybodus a ddim yn deall niferoedd y siaradwyr Cymraeg, felly dwi'n trio cysylltu â phobl i drio gwella'r sefyllfa."

Disgrifiad o’r llun,

"Bendant mae 'na alw am fwy o gemau wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg," meddai Gav Murphy

Yn byw yn Llundain, mae Gav Murphy yn berchen ar gwmni RKG, sy'n creu fideos a phodlediadau o bobl yn chwarae gemau.

"Bendant mae 'na alw am fwy o gemau wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Mae fy nghariad ar y funud yn chwarae The Witcher 3 ac mae hi newydd ddod ar draws cymeriadau gydag acen Gymraeg," meddai.

"Mae pobl Cymraeg yn excited achos maen nhw mor prowd o lle maen nhw'n dod. Os fyddai 'na gêm massive fel Assassin's Creed hefo cyfieithiad Cymraeg, bydd 'na gynulleidfa massive i hwnna."

Un cwmni sy wedi bod yn cefnogi'r iaith yn eu gemau ers blynyddoedd yw Wales Interactive, o Ben-y-bont ar Ogwr.

Maen nhw'n gwerthu eu gemau ar draws y byd, wedi ennill sawl BAFTA, ac ar fin rhyddhau gêm newydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gymraeg yn "ychwanegu gwerth" i gemau, medd David Banner

Dywedodd David Banner, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni: "Ni wnaeth y gêm console Cymraeg cyntaf, ac mae llawer o'n gemau yn Gymraeg.

"Mae ein gêm ddiweddaraf, Maid of Sker yn cynnwys hwiangerdd Gymraeg - Suo Gân, ac mae wedi creu dipyn o gynnwrf.

"Mae llawer o bobl wedi bod yn gofyn 'pa iaith yw honna?', maen nhw'n meddwl mai Daneg ydy hi!

"Felly rydym yn defnyddio'r Gymraeg i'w marchnata hi ac i ychwanegu gwerth i'r gêm yr ydym yn ei greu."

Her darganfod gemau

Ond er bod 'na gefnogaeth i'r iaith, mae'n dipyn o her i ddod o hyd i'r gemau Cymraeg sy'n bodoli.

Wrth chwilio ar un siop gemau ar-lein, dydy Destructivator 2 ddim yn ymddangos ar ôl teipio geiriau fel 'Cymru, Cymraeg, Wales, Welsh' i mewn i'r blwch chwilio, er bod y gêm ar gael yn y siop.

Er yr heriau i'r iaith Gymraeg mewn gemau fideo, mae'r diwydiant yn dal i dyfu - erbyn hyn mae'n fwy hyd yn oed na'r diwydiant cerddoriaeth a ffilm wedi eu cyfuno.

Mae angen manteisio ar hynny felly, yn ôl Morgan Roberts.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Morgan Roberts y gallai gemau fideo fod yn "gyfle gwych" i helpu cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg

"Mae disgwyliadau gan fusnesau i wneud pethau'n ddwyieithog, ond bydde cael yr un fath o gyfle ar gyfer gemau fideo yn cael effaith hynod, achos mae fe'n blatfform sy'n gallu cael ei rannu gyda miloedd o bobl o gwmpas y byd," meddai.

"Felly mae 'na rywbeth fan 'ma sydd yn gallu cael ei gefnogi ar lefel lot uwch, i wneud gwahaniaeth mawr.

"A gyda'r targed o filiwn o siaradwyr, dwi'n credu bod hyn yn gyfle gwych tuag at y nod hynny."

Clybiau gemau yn Gymraeg

Parhau felly mae Menter Caerffili i ddatblygu cymuned o chwaraewyr Cymraeg ar-lein, trwy redeg nifer o glybiau gemau fideo cymunedol ar sianeli YouTube a Twitch, 'Yn Chwarae', sy'n rhoi cyfle i bobl sgwrsio yn Gymraeg tra'n chwarae gemau fideo.

Ychwanegodd Morgan: "Bydd e'n haws i ni allu cael cymuned Cymraeg digidol os mae'r cynnwys yn y Gymraeg a dwi'n credu gyda'r diwydiant gemau, dyw e ddim yn andros o anodd.

"Mae'r codwyr yma yng Nghymru ac mae'r cyfieithwyr yma yng Nghymru hefyd. Felly jyst mater o roi'r dots gyda'i gilydd. Bydd angen cefnogaeth ariannol wrth gwrs, ond fi'n siŵr gwelwn ni twf wedyn o ran defnydd iaith."

Fel rhan o ŵyl Ffilifest, sy'n rhedeg y penwythnos hwn (6ed-9fed o Fehefin), mi fydd Morgan a Menter Iaith Caerffili yn chwarae pob gêm Gymraeg ar eu sianel Twitch - 'Yn Chwarae' - gan ddechrau am 10:00 fore Sadwrn.