Datgelu cynlluniau ailagor busnesau canol Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae'r cynlluniau'n cynnwys systemau cerdded un-ffordd yng nghanol y ddinas
Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu cynlluniau i ailagor canol y ddinas yn ddiogel i'r cyhoedd pan fydd y cyfyngiadau coronafeirws yn cael eu llacio.
Mae'r trefniadau'n cynnwys systemau cerdded unffordd, ardaloedd ciwio penodedig tu allan i siopau ac "ardaloedd gorlifo" tu allan i fwytai, caffis a bariau.
Bydd mannau croesawu'n rhoi gwybodaeth i siopwyr, gweithwyr ac ymwelwyr, a bydd yna "sgwâr cyhoeddus 'newydd'" ar diroedd Castell Caerdydd ar gyfer busnesau lleol sydd methu gwasanaethu'u cwsmeriaid oherwydd y rheolau pellter cymdeithasol.
"Mae'r cynlluniau hyn yn dechrau amlinellu i ryw raddau sut y gall bywyd ailddechrau a sut y gall Caerdydd ffynnu er gwaethaf COVID-19," meddai arweinydd y cyngor sir, Huw Thomas.

Dyma sut allai'r system gerdded un-ffordd edrych ar Heol Eglwys Fair
Mae'r cyngor wedi datblygu'r cynlluniau gyda chwmni Arup, sy'n arbenigo ar ail-ddylunio dinasoedd.
Mae yna drafodaeth ynghylch datblygu ap fel bod pobl yn gallu archebu bwyd gan fusnesau yn ardal y sgwâr cyhoeddus ar dir y castell, fyddai wedyn yn trefnu i'w cludo atyn nhw.
Awydd i ailgyflwyno cerddoriaeth fyw
Dywedodd y Cynghorydd Thomas fod y cyngor yn dal "yn gweithio drwy fanylion y cynlluniau hyn gyda busnesau, trigolion a chynghorwyr lleol".
"Rwy'n benderfynol y bydd ein dinas yn ailagor mewn ffordd a fydd yn gwneud popeth sy'n bosib i ddiogelu miloedd o swyddi, ac mewn ffordd sydd ar yr un pryd yn groesawgar ac yn hyderus ynghylch dyfodol Caerdydd," meddai.

Bydd gŵyl Tafwyl yn cael ei chynnal yn ddigidol o Gastell Caerdydd eleni
"Rwy' hefyd yn awyddus ein bod yn gweithio gyda'r bwrdd cerddoriaeth i ddod â cherddoriaeth fyw yn ôl i'r ddinas cyn gynted ag y gallwn.
"Byddwn yn edrych ar ffyrdd o ddefnyddio mannau cyhoeddus i greu lleoedd diogel ar gyfer digwyddiadau lle gall pobl fwynhau cerddoriaeth ac adloniant ar y stryd mewn amgylchedd diogel a chroesawgar."

LLIF BYW: Edrych yn ôl ar ddydd Gwener, 5 Mehefin
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd

Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2020