Gwisgo mwgwd yn 'rhesymol': Arwyddion o newid cyngor
- Cyhoeddwyd

Mae Sefydliad Iechyd y Byd bellach yn annog gwisgo masgiau yn gyhoeddus
Mae gwisgo gorchudd dros eich wyneb i atal lledaeniad coronafeirws yn "rhesymol," yn ôl ffigwr blaenllaw yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dywedodd Dr Christopher Williams y "dylai 'na fod" effaith ar ledaeniad yr haint pe bai llawer o bobl yn gwisgo gorchudd mewn "amgylchiadau priodol".
Yn Lloegr bydd gorchuddio eich wyneb yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus o 15 Mehefin.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw yn gwneud datganiad ar y mater ddechrau'r wythnos nesaf.
WHO yn newid ei safbwynt
Mae Sefydliad Iechyd y Byd bellach wedi newid y cyngor swyddogol ynglŷn â gwisgo mygydau, gan ddweud y dylen nhw gael eu gwisgo yn gyhoeddus er mwyn atal lledaeniad Covid-19.
Cyn hyn roedd y corff wedi dadlau nad oedd digon o dystiolaeth i ddweud y dylai pobl iach orchuddio eu hwynebau.
Hyd yn hyn dydy'r Prif Weinidog Mark Drakeford ddim wedi dweud y dylai unrhyw un orchuddio eu hwynebau, gan ychwanegu mai "dewis personol" ydy hynny.
Mae cangen Cymru Cymdeithas Feddygol Prydain eisiau i weinidogion newid y polisi yma, gan alw am wisgo masgiau mewn mannau cyhoeddus ble nad oes modd i bobl gadw pellter cymdeithasol.

Bydd gorchuddio eich wyneb yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yn Lloegr o 15 Mehefin
Dywedodd Dr Williams ar BBC Radio Wales fore Sadwrn: "Rwy'n meddwl yn gyffredinol o ran iechyd cyhoeddus bod egwyddor - os oes llawer o bobl yn gwneud yr un peth, hyn yn oed os mai effaith fechan mae hyn yn ei gael yn unigol, gallai gael effaith fawr ar y boblogaeth drwyddi draw.
"Rwy'n credu mai dyma'r meddylfryd o ran gorchuddio eich wyneb.
"Os oes 'na lawer o bobl yn eu defnyddio yn yr amgylchiadau priodol fe ddylai gael effaith ar y lledaeniad.
"Yn amlwg mae'n anodd mesur, a dyw'r dystiolaeth ddim yn 100%, ond mae'n ymddangos yn rhesymol i'w hychwanegu fel lefel ychwanegol o amddiffyniad, yn yr un ffordd ag y mae aros dau fetr i ffwrdd o rywun hefyd yn ffordd o atal y lledaeniad."


Ar Twitter fore Sadwrn dywedodd y Dirprwy Weinidog Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters bod pryder y gallai gwisgo masg "roi'r teimlad ffals o ddiogelwch."
Ychwanegodd y "gallan nhw annog ymddygiad mwy mentrus."

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud y dylid gwisgo masgiau ble nad oes modd cadw pellter cymdeithasol, a bod Llywodraeth Cymru "ar ei hôl hi" o ran eu canllawiau.
Mae Plaid Cymru hefyd wedi dweud y dylai Llywodraeth Cymru annog pobl i orchuddio eu hwynebau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2020