Pryderon 'difrifol' am degwch achosion is-bostfeistri

  • Cyhoeddwyd
Noel Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Noel Thomas wedi gweithio i'r Swyddfa Bost am ddegawdau cyn cael ei erlyn a'i garcharu

Mae 'na bryderon difrifol am degwch achosion llys degau o is-bostfeistri gafwyd yn euog o dwyll, yn ôl y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol.

Wrth gyhoeddi eu rhesymau dros yrru nifer o'r achosion i'r Llys Apêl, mae'r Comisiwn yn dweud fod yna le i amau a oedd y Swyddfa Bost wedi ymchwilio'n drwyadl a gwrthrychol i'r mater.

Chafodd y llysoedd ddim gwybod fod yna bosibilrwydd cryf mai nam cyfrifiadurol oedd yn gyfrifol am symiau o arian yn mynd ar goll rhwng 2001 a 2013.

Un o'r achosion fydd yn cael ei ailystyried ydi un Noel Thomas o Gaerwen ar Ynys Môn. Cafodd o ei garcharu yn 2005 wedi i £48,000 ddiflannu o gyfri'r swyddfa.

'Dwi wedi colli bob dim'

Y llynedd penderfynodd yr Uchel Lys o blaid yr is-bostfeistri, gyda'r barnwr yn llym ei feirniadaeth o ymddygiad y Swyddfa Bost. Ond symiau cymharol fychan o iawndal mae'r is-bostfeistri wedi cael yn sgil yr achos.

Mae'r arian mae Noel Thomas wedi'i dderbyn yn cynnwys £3,500 am yr "anghyfleustra o gael eich carcharu".

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dedfrydau 39 o is-bostfeistri eu cyfeirio y llynedd at y Llys Apêl

"Mae'n warthus, deud gwir," meddai Mr Thomas. "Dwi wedi colli bob dim.

"Weithiais i'r Swyddfa Bost am 42 o flynyddoedd, a be gefais i oedd ddim medal, neu diolch yn fawr, ond 13 wythnos yng ngharchar."

Diffyg gwybodaeth

Wrth gyhoeddi'r rhesymau am yrru achos Mr Thomas a 46 achos arall i'w hailystyried gan y Llys Apêl, mae'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol yn dweud fod yna le i gredu na chafodd y llysoedd wybodaeth lawn a chywir ynglŷn â phroblemau gyda system gyfrifiadurol o'r enw Horizon.

Mae'r Comisiwn yn dweud fod yna bellach "bryderon difrifol am degwch yr achosion".

Mae'r Swyddfa Bost yn dweud eu bod wedi gwneud "newidiadau sylfaenol" ac y byddan nhw'n gwneud popeth o fewn eu gallu i hwyluso'r broses gyfreithiol.