UCAC: 'Cynlluniau ailagor yn peri gormod o risg'
- Cyhoeddwyd

Mae ysgolion Cymru wedi bod ynghau ers 20 Mawrth
Mae'r gweinidog addysg Kirsty Williams yn wynebu galwadau pellach i ollwng ei chynlluniau i ailagor ysgolion ar gyfer bob blwyddyn ar ddiwedd y mis.
Daw galwad diweddaraf undeb athrawon UCAC ar y diwrnod pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU na fyddai holl ddisgyblion cynradd Lloegr yn dychwelyd i'r ysgol cyn gwyliau'r haf wedi'r cwbl.
Mewn llythyr at y gweinidog addysg mae UCAC yn dweud fod y cynlluniau presennol yn peri gormod o risg i aelodau staff, gan alw am gau'r ysgolion tan fis Medi.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru na fyddai'r newidiadau yn Lloegr yn effeithio ar y penderfyniad yng Nghymru.
Mae'r rhan fwyaf o undebau athrawon wedi bod yn feirniadol o gynlluniau Llywodraeth Cymru i ailagor ysgolion i bob blwyddyn am gyfnodau cyfyngedig yn ystod yr wythnos.
Ddydd Iau fe wnaeth cynrychiolwyr athrawon â swyddogion Llywodraeth Cymru gynnal rhagor o drafodaethau.

Mae Kirsty Williams hefyd wedi dweud bydd y tymor yn cael ei ymestyn wythnos tan 27 Gorffennaf
Cyn y cyfarfod, ysgrifennodd UCAC at Ms Williams yn dweud bod gofyn i ysgolion baratoi i blant ddychwelyd "heb wybod pa drefniadau fydd ar waith i sicrhau eu diogelwch".
Agor ym mis Medi "fyddai'r opsiwn doethaf" meddai UCAC, ond gallai caniatáu i flynyddoedd 6, 10 a 12 ddychwelyd cyn yr haf "fod yn ymarferol".
"O dan yr amgylchiadau presennol, mae'r ystyriaethau ymarferol, logistaidd sy'n gysylltiedig â cheisio rhoi cyfle i bob disgybl ddychwelyd i'r ysgol cyn yr haf yn arswydus" meddai.
"Cred UCAC fod y risgiau y mae'r llywodraeth yn gofyn i weithlu'r ysgolion eu cymryd yn annerbyniol o uchel."
Galwodd am sicrwydd ar ystod o bwyntiau, gan gynnwys cyflenwi offer amddiffynnol personol a phrofion coronafeirws ar gyfer disgyblion a staff.


Roedd llywodraeth y DU wedi bwriadu i bob disgybl cynradd yn Lloegr dreulio pedair wythnos yn yr ysgol cyn gwyliau'r haf.
Nawr maen nhw'n credu na fydd hynny'n ymarferol ac yn lle hynny mae yna "hyblygrwydd" i ysgolion ynghylch derbyn disgyblion ai peidio.
Dim effaith
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru na fyddai'r newid polisi yn Lloegr yn effeithio ar y cynlluniau yma.
Ychwanegodd na fyddai ganddyn nhw unrhyw beth i ychwanegu at ddatganiad Kirsty Williams yr wythnos ddiwethaf, ac fe gadarnhaodd y byddai canllawiau i ysgolion ac awdurdodau addysg lleol yn cael eu cyhoeddi ddydd Mercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2020
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2020