Sir Ddinbych â'r gyfradd coronafeirws uchaf yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Sir Ddinbych sydd bellach â'r gyfradd uchaf o achosion coronafeirws yng Nghymru gyfan, yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae gan y sir honno bellach 707 o achosion positif am bob 100,000 person, sydd yn uwch na'r gyfradd o 704.2 yn Rhondda Cynon Taf.
Ar draws Cymru mae'r cyfartaledd yn 458.8 am bob 100,000, ond yng Ngheredigion mae'n 61.7 sef yr isaf o bell ffordd.
Ddydd Mercher cafodd naw marwolaeth a 38 achos newydd o Covid-19 eu cadarnhau gan ICC.
'Lledaenu'n hawdd'
O'r 38 achos newydd gafodd eu cadarnhau roedd 23 ohonynt yn y gogledd, gyda 10 yn Sir Ddinbych - ers dechrau'r pandemig mae 674 achos positif wedi'u cadarnhau yn y sir.
Ar draws y gogledd mae ffigyrau ICC yn cadarnhau 303 o farwolaethau Covid-19 yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, gan olygu eu bod nhw bellach ond pedwar yn is na chyfanswm y bwrdd iechyd uchaf, Cwm Taf Morgannwg.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fodd bynnag fod "nifer yr achosion positif ym mhob ardal o ogledd Cymru'n gostwng o'r brig, a bod y niferoedd yn mynd am i lawr yn gyffredinol".
Yr wythnos ddiwethaf fe ddywedodd ICC bod mwy o brofion yn cael eu cynnal mewn cartrefi gofal ac ar weithwyr allweddol yn y gogledd, a'u bod wedi darganfod achosion mewn pobl oedd dangos symptomau a rhai oedd ddim.
Ond doedden nhw methu cadarnhau faint o'r achosion yn Sir Ddinbych oedd mewn cartrefi gofal.
Mae ffigyrau ICC ond yn dangos pobl sydd wedi cael coronafeirws ar ôl cael prawf positif am yr haint, gan olygu bod gwir nifer yr achosion a marwolaethau yn uwch na hynny.
Fe wnaeth ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol ddangos bod 2,240 o bobl wedi marw o Covid-19 hyd at 29 Mai, cynnydd o 105 ar ffigyrau'r wythnos flaenorol.
Dim ond 1,349 o farwolaethau coronafeirws yr oedd Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cofnodi hyd at y dyddiad hwnnw.
LLIF BYW: Y newyddion diweddaraf ar 10 Mehefin
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd
"Mae coronafeirws yn parhau i fod yn feirws sy'n lledaenu'n hawdd, ac unrhyw le y mae cyfle iddo ymledu, fe fydd yn gwneud hynny," meddai llefarydd ar ran ICC.
"Dyna pam fod parhau i ddilyn rheolau ar ymbellhau cymdeithasol yn hanfodol.
"Mae nifer o ffactorau gwahanol yn esbonio pam all rhai ardaloedd gael cyfradd uwch o achosion positif yn y boblogaeth ar unrhyw adeg, gan gynnwys tlodi, lefelau uwch o gyflyrau iechyd hir dymor, a mwy o brofi mewn lleoliadau fel cartrefi gofal, sy'n gallu arwain at nifer uwch o brofion positif o'i gymharu ag ardaloedd eraill."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd31 Mai 2020
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2020