Cwmni yn ystyried lleoli safle ffatri batris yn ne Cymru

  • Cyhoeddwyd
Sain TathanFfynhonnell y llun, Geograph | Jaggery
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sain Tathan yn un o ddau safle sydd yn cael ei ystyried ar gyfer y ffatri

Mae cwmni sydd yn bwriadu cynhyrchu batris ar gyfer ceir trydan yn dweud mai safle ym Mro Morgannwg yw un o'r "opsiynau sydd wedi ei ffafrio" ar gyfer ffatri fydd yn cyflogi dros 3,500 o bobl.

Mae'r cynhyrchwyr Britishvolt wedi cadarnhau eu bod bellach wedi penderfynu mai safle yn Sain Tathan neu safle yn Coventry yng Nghanolbarth Lloegr fydd yn gartref i'r "gigaffatri".

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae nhw nhw wedi bod yn gweithio gyda chwmni Britishvolt am gyfnod hir, ac yn credu bod y safle yn Sain Tathan yn cynnig "achos cryf" i fod yn gartre newydd i'r ffatri.

Mae gan brif swyddog gweithredol y cwmni, Orral Nadjari, gysylltiad â Chymru, gan ei fod wedi treulio saith mlynedd "orau ei fywyd" fel myfyriwr yng Nghaerdydd, a dywedodd bod Bro Morgannwg yn "leoliad da iawn" ar gyfer ei ffatri newydd.

"Rydyn ni'n edrych i adeiladu gigaplant sydd yn 1km o hyd, 500m lled a 30m o uchder, felly mae'n brosiect enfawr a dyw rhywbeth mor fawr a hynny ddim yn gallu mynd unrhyw le," meddai.

Ffynhonnell y llun, Orral Nadjari
Disgrifiad o’r llun,

"Rydw i yn agored ac yn onest iawn am y ffaith mai Cymru yw unopsiwn sydd wedi ei ffafrio," meddai Orral Nadjari

"Mae'r sgwrs uniongyrchol yr ydyn ni wedi cael gyda Llywodraeth Cymru wedi bod yn digwydd am gwpl o wythnosau o leiaf, ac mae'r parodrwydd a'r paratoad y maen nhw wedi dangos i ni wedi bod yn ddiddorol iawn, sy'n esbonio pam bod Sain Tathan yn un o'r llefydd yr ydym yn ei ystyried."

Yn ôl y cwmni, byddant yn creu dros 3,500 o swyddi ar y safle fydd yn gartref i'r ffatri ac maent wedi gwadu eu bod yn marchnata eu hunain i'r sawl sy'n cynnig y pris gorau er mwyn denu rhagor o gyllid gan lywodraethau.

'Proffesiynol iawn'

"Rydw i yn agored ac yn onest iawn am y ffaith mai Cymru yw un opsiwn sydd wedi ei ffafrio," ychwanegodd.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn broffesiynol iawn ac wedi llwyddo i ateb pob un o'n cwestiynau o'r cychwyn cyntaf.

"Felly na, rydyn ni ddim yn ceisio gwerthu i'r sawl sy'n cynnig y pris uchaf achos mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud swydd anhygoel a nhw yw un opsiwn sydd wedi ei ffafrio."

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Ry'n wedi gweithio gyda Britishvolt ar y cynnig hwn am gryn amser ac ry'n yn hynod o falch ein bod ar y rhestr fer.

"Credwn fod Bro Tathan yn safle da - yn arbennig i gwmni sydd am fod yn gynhyrchwyr gwyrdd byd-eang."

'Effaith enfawr'

Dywedodd Tim Williams o Fforwm Moduro Cymru bod y cynllun yn "newyddion gwych i Gymru."

"Mae hwn yn fuddsoddiad mawr, tua £5bn yn ei gyfanrwydd, felly gallwch ddychmygu bod yr effaith ar y DU a'r effaith ar Gymru yn enfawr.

"Mae rhaid i Lywodraeth Cymru fod mor feiddgar ac y gallan nhw fod. Mae hwn yn fuddsoddiad anferthol sy'n creu nifer fawr o swyddi ac mae Llywodraeth Cymru yn y gorffennol wedi llwyddo i ddenu prosiectau mawr."