Addysg Gymraeg: Galw am ohirio cynnig 'hynod broblematig'
- Cyhoeddwyd
Mae galwadau i ohirio cyflwyno cwricwlwm newydd yng Nghymru yn sgil pryderon am yr effaith ar addysg Gymraeg.
Mae Newyddion S4C wedi clywed nifer o bryderon ynglŷn â chynnig dadleuol yn y Mesur Cwricwlwm newydd fyddai'n gwneud y Saesneg yn orfodol i blant bach, oni bai bod ysgolion unigol yn dewis fel arall.
Dywedodd pennaeth addysg un cyngor sir y byddai'n rhaid i ysgolion unigol geisio am ganiatâd i drochi plant yn y Gymraeg, ac y gallai hynny arwain at lai o siaradwyr Cymraeg yn y pendraw.
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod rhai wedi "camddeall rhannau o'r bil" ond yn pwysleisio ei fod yn "sicrhau am y tro cyntaf erioed bod yna sail gyfreithiol i'r arfer o drochi".
Mae 'na bwysau o sawl cyfeiriad i ailystyried y cynnig.
"Ein dealltwriaeth ni yn sicr yw bod y bil yn rhoi caniatâd i ysgolion i drochi ond mae'n rhaid iddyn nhw wneud cais am y caniatâd hynny," meddai Meinir Ebbsworth, Prif Swyddog Addysg Ceredigion.
"Mae'n rhaid iddyn nhw ddatgan y rationale pam bod nhw am wneud hynny.
"Ond eto, penderfyniadau unigol yw'r rheiny a allai, ar ei waethaf, arwain at gyrff llywodraethol yn penderfynu peidio cynnal trochi, a allai yn y pendraw arwain at lai o siaradwyr Cymraeg, llai o ysgolion cyfrwng Cymraeg."
Cynnig 'hynod broblematig'
Mewn llythyr at y Gweinidog Addysg Kirsty Williams, mae'r Mudiad Meithrin hefyd yn cwyno bod y cynnig yn "hynod broblematig" ac yn rhoi "argraff gamarweiniol" mai "Saesneg yw iaith normadol cyfundrefn gofal ac addysg Cymru".
"Mae o'n tanseilio yn syth, yn hollol naturiol, mai cyfrwng yr iaith ydy'r Gymraeg, yn enwedig yn y cyfnod trochi cynnar yna ac mae o'n rhoi y gallu felly i hynny gael ei newid dros nos," meddai Sian Gwenllian, AS Plaid Cymru.
"Mae o'n dangos diffyg dealltwriaeth o sut mae trochi yn gweithio ac yn peryglu nod y llywodraeth ei hunain o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg."
Ychwanegodd y gallai rhoi'r dewis dros drochi i ysgolion unigol danseilio polisïau iaith cynghorau sir.
Mae Plaid Cymru, yn ogystal â Chymdeithas yr Iaith, yn galw am ohirio cyflwyno'r newid.
Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod bod rhai wedi camddeall rhannau o'r bil mewn perthynas â throchi.
"I fod yn glir: bydd y Bil Cwricwlwm ac Asesu yn sicrhau am y tro cyntaf erioed bod yna sail gyfreithiol i'r arfer o drochi.
"Mae'r bil yn nodi'n benodol bod y Gymraeg a'r Saesneg yn bynciau gorfodol gan ein bod, wrth gwrs, yn wlad ddwyieithog. Cynigir hefyd ffyrdd o ddiwygio sut mae'r Gymraeg yn cael ei haddysgu.
"Tra bydd y Gymraeg yn parhau i fod yn orfodol i bob dysgwr 3-16 oed, ni fydd rhaglenni astudio Iaith Gyntaf ac Ail Iaith gwahanol.
"Bydd pob dysgwr yn dilyn yr un cwricwlwm, a bydd y pwyslais ar wella sgiliau dysgwyr a chynyddu eu defnydd o'r iaith."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2020