Rhoddion tu allan i siopau: Elusennau ar eu colled

  • Cyhoeddwyd
Rhoddion tu allan i siop Barnardo'sFfynhonnell y llun, Ceredig Davies
Disgrifiad o’r llun,

Bydd elusennau, mwyaf tebyg, yn gorfod tirlenwi rhoddion sydd wedi'u gadael tu allan i'w siopau yn ystod y cyfnod clo

Mae elusen yn dweud eu bod yn wynebu costau oherwydd y rhoddion sy'n cael eu gadael tu allan i'w siopau wrth i bobl roi trefn ar eu cartrefi yn ystod y cyfnod clo.

Gan fod siopau elusen ar gau oherwydd y pandemig coronafeirws, mae'n amhosib prosesu a gwerthu'r nwyddau sy'n cael eu gadael y tu allan iddyn nhw.

Mae'n golygu fod elusennau'r gorfod defnyddio gwasanaethau gwaredu gwastraff, neu drefnu gwirfoddolwyr i'w hailddosbarthu.

Mae Barnardo's ac Oxfam wedi gofyn i bobl gysylltu â nhw cyn cynnig rhoddion.

Dywed Barnardo's Cymru na allen nhw gadarnhau maint cost clirio rhoddion iddyn nhw hyd yma, ond eu bod wedi ymdrechu i gadw'r gost mor isel â phosib.

Mae rhai awdurdodau lleol hefyd wedi helpu'r elusennau mewn achosion sy'n cael eu hystyried yn rhai o waredu gwastraff yn anghyfreithlon.

Disgrifiad o’r llun,

Blwch rhoddion y YMCA yng Nghaerdydd wedi'i gau â thâp i atal rhagor o roddion

Dywed yr elusen fod y sefyllfa wedi gwella ers dechrau'r cyfnod clo, ond ei bod hi'n amhosib darogan beth fydd y sefyllfa wedi i siopau ddechrau ailagor yn Lloegr o 15 Mehefin ymlaen.

Mae 70 o siopau Barnardo's yn ailagor yn Lloegr yr wythnos nesaf, a phan fydd yr un peth yn bosib yng Nghymru, o bosib yn yr wythnosau nesaf, mae'n fwriad i ailagor siopau'n raddol.

"Ni allwn ddarogan os fydd y broblem yn gwaethygu yng Nghymru pan fydd siopau Lloegr yn dechrau ailagor," meddai'r cyfarwyddwr masnachu, David Longmore.

"Ond fel rhan o'n cynlluniau ailagor, rydym yn gofyn i'n cwsmeriaid gysylltu â'u siop leol cyn ceisio cynnig rhoddion."

'Mae'n faich arnyn nhw'

Dywedodd Ceredig Davies, cynghorydd yn Aberystwyth, ei fod yn deall awydd pobl "i wneud y peth cywir" a chynnig rhoddion ar ôl cael digon o amser i lanhau'r tŷ.

"Ond dyw'r elusennau ddim mewn sefyllfa i dderbyn y pethau hyn ac mae'n faich arnyn nhw," meddai.

"Mae gadael pethau tu allan i siopau elusen ar hyn o bryd, pan nad ydyn nhw'n derbyn rhoddion, mewn gwirionedd yn costio amser ac arian i'r elusennau.

"Mae'r rhan fwyaf yn cael eu casglu a'u tirlenwi, ac os ydyn nhw'n defnyddio gwasanaeth casglu'r cyngor lleol mae'n rhaid iddyn nhw dalu amdano neu gontractwr preifat, fyddai hefyd yn costio."

Ychwanegodd Mr Davies fod pobl yn gadael eitemau'n anghyfreithlon ger blychau rhoddion Byddin yr Iachawdwriaeth, er nad ydy'r blychau'n cael eu gwagio ar hyn o bryd.

"Mae pobl yn gadael pethau yna, ac oherwydd mae pobl eraill yn gweld y bagiau, mae'n cael ei weld, i bob pwrpas, fel man tipio sbwriel."

'Roedd rhaid gwneud rhywbeth'

Ffynhonnell y llun, Darron Stephen Smith
Disgrifiad o’r llun,

Mae Darron Stephen Smith yn gwirfoddoli mewn canolfan fwyd sy'n helpu'r elusennau

Mae sawl gwirfoddolwr lleol wedi camu i'r adwy i helpu ysgwyddo baich yr elusennau.

Mae Darron Stephen Smith wedi helpu ail-ddosbarthu'r rhoddion a sicrhau lle i'w cadw'n sych ac yn ddiogel.

Apeliodd ar Facebook am help i olchi dillad, gan y byddai'n cymryd hir i'w wneud gydag un peiriant golchi yn unig. Mae 18 o bobl wedi cynnig mynd â rhai bagiau adref i olchi a sychu'r cynnwys.

Mae Mr Smith wedi darparu offer PPE a hylif glanhau dwylo, a threfnu i gasglu a danfon y rhoddion yn ddiogel.

Dywedodd: "Ro'n i'n meddwl fod rhaid gwneud rhywbeth i stopio'r dillad ma' rhag mynd i safle tirlenwi neu bydru ar y strydoedd."