Cymeradwyo cynllun £35m i adnewyddu Theatr Clwyd

  • Cyhoeddwyd
Argraff artist o Theatr ClwydFfynhonnell y llun, Cyngor Sir y Fflint
Disgrifiad o’r llun,

Argraff artist o fynediad y theatr ar ei newydd wedd

Mae cynlluniau i adnewyddu Theatr Clwyd ar gost o £35m wedi eu cymeradwyo.

Cafodd yr adeilad Rhestredig Gradd II ei adeiladu yn y 1970au yn Yr Wyddgrug, ond bellach mae'n dangos ei oed, gyda rhannau o'r to yn gollwng a mynediad gwael i'r anabl yn rhai o'r problemau sydd wedi eu nodi.

Dywedodd Cyngor Sir y Fflint, sydd yn berchen ar yr adeilad, y gallai'r problemau presennol effeithio ar gynnal sioeau a dramâu.

Fe fydd y gwaith adnewyddu'n golygu creu estyniad ar flaen yr adeilad, gyda chyntedd tri llawr a bwyty, bar a chaffi.

Dywed swyddogion y theatr nad oedd gwelliannau arwynebol bellach yn ddigon i sicrhau fod yr adeilad, gafodd ei agor yn 1976, yn cydymffurfio gyda rheolau iechyd a diogelwch modern.

Ffynhonnell y llun, Rept0n1x
Disgrifiad o’r llun,

Agorodd y theatr yn 1976 ond bellach mae problemau wedi codi gyda'r adeilad

Dywed datganiad ar wefan y theatr: "Ers dros 40 mlynedd mae ein hadeilad wedi bod yn arloesi mewn rhagoriaeth ac yn gartref i'n cymuned ni.

"Ond mae'r adeilad angen ei ailddatblygu ar frys i sicrhau nid yn unig ei fod yn ddiogel ac yn addas i bwrpas ond hefyd i greu cartref gwyrdd ac ysbrydoledig i'n cymuned ni am y 40 mlynedd nesaf a thu hwnt.

"Bydd y prosiect unigryw yma yn sicrhau bod Gogledd Cymru'n cadw'r adnodd hanfodol a chynaliadwy yn ariannol yma ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir y Fflint
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y fynedfa newydd yn cynnwys caffi, bar a bwyty

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru dalu am y mwyafrif o'r gost, ac mae'r awdurdod lleol a Cyngor y Celfyddydau wedi gwario £1 yn datblygu'r cynllun.

O achos y pandemig coronafeirws mae'r theatr ei hun wedi bod ar gau ers mis Mawrth, gyda yn yn achos colli £1m mewn trosiant meddai swyddogion.