Nantgaredig: Dyn busnes yn gwadu llofruddiaeth
- Cyhoeddwyd

Mae'r chwilio'n parhau am Michael O'Leary ers iddo ddiflannu ar 27 Ionawr
Mae perchennog cwmni adeiladu o Sir Gaerfyrddin wedi gwadu ei fod wedi llofruddio dyn 55 oed o Nantgaredig sydd wedi bod ar goll o'i gartref ers 27 Ionawr.
Dyw'r heddlu heb ddod o hyd i gorff Michael O'Leary ar ôl i'w deulu gysylltu gyda nhw i ddweud nad oedd wedi dychwelyd adre o'i waith.
Fe wnaeth Andrew Jones, 52 oed o Gaerfyrddin ymddangos drwy gyswllt fideo o Lys y Goron, Abertawe, ddydd Gwener.
Dywed heddlu Dyfed-Powys fod y chwilio am gorff Mr O'Leary yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2020