Swastika: Heddlu yn awyddus i holi unigolyn
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r Gogledd wedi cyhoeddi delweddau o berson maen nhw'n awyddus i'w holi ar ôl i arwydd swastika gael ei baentio ar ddrws garej yn eiddo i bobl ddu yng Ngwynedd.
Dywedodd yr Arolygydd Jon Aspinall fod y drosedd casineb wedi digwydd ym Mhenygroes rhywbryd yn ystod oriau mân 13 Mehefin.
"Ar adeg pan mae hiliaeth yn hawlio penawdau yn y newyddion, mae'n annerbyniol fod aelodau o'n cymuned yn cael eu targedu yn y modd yma," meddai.
"Rydym yn trin troseddau casineb yn hynod ddifrifol, a byddwn yn ddiolchgar pe bai unrhyw un sy'n adnabod y person yma i'n cynorthwyo."
Mae teulu Margaret Ogunbanwo wedi sôn am y sioc o ddarganfod y swastika.
Wrth siarad gyda BBC Cymru dros y penwythnos, dywedodd Ms Ogunbanwo ei bod yn credu fod y teulu wedi ei dargedu am eu bod yn ddu.
Ychwanegodd na fyddai'n glanhau'r symbol yn syth gan ei bod am i bobl weld yr hyn oedd wedi digwydd.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar y we neu drwy ffonio 101, neu yn ddienw ar 0800 555 111.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2019