Cwmnïau'n 'nerfus' am brofion gwrthgyrff i weithwyr
- Cyhoeddwyd
Mae cwmnïau'n "nerfus" ynglŷn â phrofi gweithwyr am coronafeirws, yn ôl cyfarwyddwr CBI Cymru.
Dywedodd Ian Price fod profion "safonol" ar gael y gall cyflogwyr eu defnyddio.
Dywed rhai busnesau y byddan nhw'n elwa o brofi gweithwyr i weld a oedden nhw wedi cael coronafeirws o'r blaen, ac y byddai hyn yn rhoi hyder i fwy ddychwelyd i'r gwaith.
Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu sut mae profion gwrthgyrff yn cael eu cyflwyno yng Nghymru.
Pryder am dorri'r canllawiau
Mae'r prawf - sy'n cynnwys profi diferion o waed - wedi cael ei ystyried gan rai fel cam pwysig ymlaen wrth fynd i'r afael â'r feirws, gan y byddai'n ein helpu i ddeall pwy sydd wedi cael coronafeirws - ac a oes gan y bobl hynny imiwnedd.
Roedd stociau o brofion gwrthgyrff yn cael eu paratoi i fynd ar werth, ond fe gafodd rheiny eu hatal rhag cael eu gwerthu.
Mae swyddogion iechyd cyhoeddus hefyd wedi bod yn pryderu y gallai arwain at bobl yn torri mesurau fel ymbellhau cymdeithasol pe byddan nhw'n credu eu bod wedi cael y feirws yn barod.
Ond mae gwaith yn parhau ar ddatblygu prawf dibynadwy y gellir ei gynhyrchu ar raddfa eang.
Nid yw'n glir o hyd a ydy cael coronafeirws yn rhoi imiwnedd i berson rhag ei ddal eto.
Dywed busnesau y gallai'r profion gwrthgyrff eu helpu wrth iddyn nhw ddod â phobl yn ôl i'r gwaith, ond dim ond os gellir profi eu bod yn ddibynadwy.
Mae Mr Price yn rhybuddio, os nad yw'r profion yn gadarn, y gallai "arwain pobl i gael teimlad o ddiogelwch ffug".
Dywedodd ei bod yn bwysig i gwmnïau fod yn glir ynghylch yr hyn yr oeddent am wneud, cyn iddyn nhw ddechrau profi.
"Mae rhywfaint o nerfusrwydd cyffredinol o gwmpas yr holl wahanol brofion sydd ar gael ar hyn o bryd. Gallwch fynd ar y rhyngrwyd a dod o hyd i bob math o bethau," meddai Mr Price.
"Mae'n ymddangos bod rhai profion dilys ar gael nawr, y gall cyflogwyr eu defnyddio."
Ychwanegodd fod "llawer o ganllawiau" a roddwyd gan lywodraethau'r DU a Chymru ac mai'r prif fater i gyflogwyr ydy "cael hyn yn iawn".
Dywedodd perchennog garej Avia Autos ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Hayley Pells y byddai cael profion gwrthgyrff yn rhoi mwy o sicrwydd i weithwyr, ond hefyd i gyflenwyr a chwsmeriaid.
"Ry'n ni eisoes yn buddsoddi mewn PPE, ac rwy'n meddwl y byddwn ni'n prynu'r profion fel estyniad o hynny," meddai.
"Pe bai'r profion ar gael am bris y gallwn ei fforddio yna byddwn i bendant yn ystyried eu prynu."
'Unrhyw sicrwydd yn beth da'
Mae tad Hayley, Andy Murdoch yn gweithio yn y garej hefyd, ond wedi cadw draw yn ystod y pandemig oherwydd bod ganddo broblemau iechyd.
Dywedodd y byddai profion gwrthgyrff iddo ef a gweddill y staff yn help mawr iddo ddychwelyd i'w waith.
"Mae unrhyw fath o sicrwydd yn beth da - pe bai sicrwydd byddwn i'n mynd 'nôl 'fory."
Mae cwmni SPTS Technologies yng Nghasnewydd wedi gweld nifer y staff ar eu safle yn gostwng o thua 400 ar ddiwrnod arferol cyn y pandemig i lai na 100 oherwydd y rheolau ar gadw pellter cymdeithasol.
Dywedodd Hefin Griffiths o'r cwmni y byddai profion gwrthgyrff yn ddefnyddiol ond bod angen sicrwydd eu bod yn gywir ac nad oes modd cael Covid-19 fwy nag unwaith.
"Ni'n credu y byddan nhw [profion gwrthgyrff] yn ddefnyddiol iawn ond mae'n rhaid i ni gyntaf wybod y wyddoniaeth tu ôl i'r pethau 'ma," meddai.
"Mae angen gwybod pa mor glir yw'r prawf ei hun a pha mor glir yw hi, os oes gennych chi'r antibodies, eich bod chi ddim yn gallu dal coronafeirws eto."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd3 Mai 2020