Cwmni'n hyderus am brawf gwrthgyrff Covid-19 newydd

  • Cyhoeddwyd
labordyFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe all prawf gwrthgyrff coronafeirws dibynadwy fod yn barod ar gyfer ei gynhyrchu ar raddfa eang erbyn mis Mehefin, yn ôl un cwmni diagnostig o'r de.

Mae cwmni BBI Solutions o Grymlyn yn Sir Caerffili yn rhan o gonsortiwm sy'n cydweithio gyda Phrifysgol Rhydychen i greu'r prawf.

Mae Boris Johnson wedi dweud y byddai'r fath brawf, sy'n datgan os yw unigolyn wedi dal haint Covid-19, yn un hynod o arwyddocaol.

Ond mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi amau gwerth y fath brofion, gan gwestiynu eu dibynadwyedd.

Dywed y sefydliad nad oes "unrhyw dystiolaeth" i ddangos fod y profion hyn yn gallu cadarnhau os yw unigolyn "wedi datblygu imiwnedd neu wedi ei amddiffyn rhag cael ei heintio eto".

Arwyddion o imiwnedd

Mae profion gwrthgyrff yn chwilio am arwyddion o imiwnedd unigolyn drwy archwilio diferion gwaed.

Hyd yn hyn, nid oes unrhyw brawf cartref wedi profi'n ddibynadwy.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud fod "prawf annibynadwy yn waeth na dim prawf."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae na anghytuno am effeithlonrwydd profion gwrthgyrff ar gyfer unigolion gan fod cyn lleied o wybodaeth am Covid-19

Dywedodd prif swyddog gweithredol BBI Solutions, Dr Mario Gualano, wrth raglen BBC Politics Wales fod yn rhaid i ddibynadwyedd y prawf newydd fod yn y "90au uchel o ran sensitifrwydd a manylder."

"Syniad y prawf hwn yw os yw rhywun yn amau eu bod wedi cael eu heintio gyda coronafeirws fe fydde modd iddyn nhw archebu prawf ac yna profi eu hunain yn hawdd iawn a dangos os ydynt wedi datblygu imiwnedd i'r coronafeirws", meddai.

Pan mae'r corff wedi ei heintio mae'n datblygu gwahanol "fathau o wrthgyrff".

"Rydym yn edrych am fath fyddai'n awgrymu heintiad hanesyddol ac felly'r rhagdybiaeth fyddai, ar sail y dystiolaeth fod gan yr unigolyn yna'r math o wrthgyrff yna, y bydde nhw wedi datblygu imiwnedd."

Amau manteision y profion

Ond mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi amau manteision profion gwrthgyrff sydyn o achos diffyg tystiolaeth am imiwnedd yn erbyn yr haint ar hyn o bryd.

Dywedodd Dr Maria van Kerkhove: "Ar hyn o bryd nid oes gennym dystiolaeth fod y defnydd o brofion serologaidd yn dangos fod gan unigolyn imiwnedd neu os yw wedi ei amddiffyn rhag cael ei heintio eto."

Ychwanegodd ei fod yn "beth da" fod cymaint o brofion yn cael eu datblygu ond dywedodd: "Rhaid i ni sicrhau eu bod yn cael eu dilysu fel ein bod yn gwybod fod yr hyn maen nhw'n ei ddweud y maen nhw'n ei fesur yn cael ei fesur."

Dywed Dr Eddie Wang, sy'n aelod o grŵp Imiwnedd Feirolegol ym Mhrifysgol Caerdydd y byddai'r profion gwrthgyrff yn "hynod o ddefnyddiol er mwyn deall os yw pobl wedi eu heintio'n barod gan y feirws.

"Beth dydi o ddim yn ei ddweud yw pa fath o ymateb i imiwnedd mae'r person yna yn ei gario.

"Rhaid i ni wybod llawer mwy cyn i ni wneud casgliadau pendant am pa mor bwysig yw'r ymatebion imiwnedd yma", meddai.

Mae Dr Gualano yn cydnabod y gallai Covid-19 esblygu, "fyddai'n golygu y byddai eich ymateb imiwnedd yn ddiwerth".

Ychwanegodd y byddai'r math o brawf mae ei gwmni'n ddatblygu fel rhan o'r consortiwm yn "hawdd iawn i'w ddefnyddio" ac mae'r cwmni'n datblygu ap fyddai'n arwain defnyddwyr drwy'r broses brofi a chofnodi'r canlyniadau.

Prawf gwahanol

Mae prawf gwrthgyrff gwahanol a mwy dibynadwy yn cael ei ddefnyddio'n barod yn labordai Porton Down, sef labordai Llywodraeth y DU yn Wiltshire.

Mae'r prawf hwn yn cael ei gadw ar gyfer mesur lefel imiwnedd y boblogaeth ehangach, ac nid er mwyn galluogi unigolion i ddarganfod os ydynt wedi eu heintio.

Dywedodd llefarydd ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru y byddai'r sefydliad yn "cyflwyno cynlluniau ar gyfer profion gwrthgyrff wythnos nesaf er mwyn dilyn trywydd yr haint ar draws Cymru fel rhan o'n cynllun adferiad."