Marwolaethau coronafeirws ar eu hisaf ers 10 wythnos
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y marwolaethau wythnosol yn ymwneud â coronafeirws wedi gostwng i'w lefel isaf yng Nghymru ers diwedd Mawrth, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Er hynny mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn dweud bod Cymru â'r gyfran uchaf o'r hyn sy'n cael ei alw'n "farwolaethau ychwanegol".
Dyma yw faint yn fwy o farwolaethau sydd wedi bod o'i gymharu â'r hyn sydd i'w ddisgwyl fel arfer ar yr adeg yma o'r flwyddyn.
Roedd 90 yn fwy o farwolaethau o'i gymharu â'r cyfartaledd dros y pum mlynedd ddiwethaf.
Dim marwolaethau mewn 4 sir
Yng Nghymru cafodd 100 marwolaeth yn ymwneud â Covid-19 eu cofrestru yn yr wythnos hyd at 5 Mehefin - 14.3% o'r holl farwolaethau.
Ni chafodd yr un farwolaeth yn ymwneud â coronafeirws ei chofrestru ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Ceredigion na Sir Benfro.
Roedd 30 o'r 100 marwolaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr - 27 o'r rheiny mewn ysbytai.
Rhondda Cynon Taf oedd yr awdurdod ble bu'r mwyaf o farwolaethau yr wythnos honno - 11 - gan ddod â'r cyfanswm yno i 278.
Caerdydd yw'r sir sydd wedi cael y nifer fwyaf o farwolaethau'n ymwneud â Covid-19, gyda chyfanswm o 357.
LLIF BYW: Y newyddion diweddaraf ar 16 Mehefin
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd
Cafodd cyfanswm o 2,317 o farwolaethau'n ymwneud â coronafeirws eu cofrestru yng Nghymru hyd at 5 Mehefin.
Mae hyn 913 yn fwy o farwolaethau na ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y pryd.
Mae ffigyrau'r ONS yn cynnwys pob marwolaeth sy'n cael ei hamau o fod wedi'i hachosi gan coronafeirws, tra bod ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru'n cynnwys rhai sydd wedi marw ar ôl cael prawf positif yn unig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mai 2020
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2020