Cyswllt rhwng iechyd meddwl mamau a babanod mewn gofal

  • Cyhoeddwyd
BabyFfynhonnell y llun, damircudic/Getty Images

Mae mwyafrif y mamau yng Nghymru sy'n cael babanod wedi'u cymryd a'u gosod mewn gofal adeg genedigaeth wedi dioddef o broblemau iechyd meddwl cyn geni, yn ôl darn sylweddol o ymchwil.

Mae'r adroddiad yn edrych ar gofnodion iechyd menywod sydd newydd eni ac yn sgil hyn mae 'na alw am gymorth ychwanegol yng nghyfnodau cynnar beichiogrwydd.

Daw rhybudd hefyd gan yr arbenigwr sy'n arwain yr ymchwil bod mwy o fabanod newydd-anedig wedi eu rhoi mewn gofal oherwydd yr her o ddarparu cefnogaeth yn ystod y pandemig coronafirws.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n "buddsoddi mewn mesurau ataliol, gan roi cymorth i fenywod i geisio sicrhau bod mwy o blant yn gallu aros gartref gyda'u rhieni".

Yr Athro Karen Broadhurst o Brifysgol Caerhirfryn sy'n arwain yr ymchwil ac, ynghyd â thîm o Brifysgol Abertawe, sydd wedi bod yn cysylltu cofnodion llys teulu â chofnodion iechyd menywod.

Mae'r gwaith dros gyfnod o bedair blynedd yn edrych ar ddata o ddegau o filoedd o gofnodion dienw, i weld sut byddai modd gwella'r sefyllfa'n y dyfodol.

Roedd yr ymchwil eisoes wedi darganfod bod cynnydd mawr wedi bod ers 2015 yn nifer y babanod oedd yn y system ofal, gyda chyfradd uwch yng Nghymru na Lloegr.

Am bob 10,000 o'r boblogaeth roedd nifer y babanod newydd-anedig oedd yn rhan o achosion gofal yng Nghymru wedi dyblu o 39 i 83.

Mae'r adroddiad diweddara - sy'n archwilio cofnodion iechyd 1,111 o famau gafodd fabi wedi'i gymryd i ofal o'i enedigaeth - yn dangos na fyddai'r menywod yma'n "cuddio" rhag y gwasanaethau pe bai nhw'n beichiogi eto.

Cysylltiad cryf a phroblemau iechyd meddwl

Ond y prif ganfyddiad, yn ôl yr Athro Broadhurst, ydy bod dros hanner y menywod yn dweud yn ystod yr apwyntiadau cyn-geni cychwynnol bod ganddyn nhw broblemau iechyd meddwl.

"Wrth edrych ymhellach yn ôl i gofnodion iechyd y menywod mae gan nifer ysgytwol - 77% - hanes o broblemau iechyd meddwl," ychwanegodd.

"Mae hwn yn ddarn clir o dystiolaeth sy'n dweud, rhowch iechyd meddwl menywod wrth galon y gwaith rydyn ni'n ei wneud yn ystod beichiogrwydd."

Mae'r ymchwil hefyd yn dangos bod yr achosion yn fwy amlwg yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru - roedd dros hanner yn rhieni yn eu harddegau ac roedd cyfran uchel yn ysmygu ac yn camddefnyddio sylweddau.

Dywedodd yr Athro Broadhurst bod yr heriau o gefnogi teuluoedd yn ystod y pandemig yn "bryder mawr" a'i bod hi bellach yn anoddach cadw babi gyda'i rhieni pan nad oedd y gefnogaeth arferol ar gael iddyn nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl David Jones mae rhoi cymorth i rhai darpar-famau'n wedi bod yn anodd tra bod y cyfyngiadau yn eu lle

Mae David Jones sy'n weithiwr cymdeithasol gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot yn cytuno gyda hyn.

Mae wedi bod yn gweithio gyda 'Helen' o Gastell Nedd i ddal gafael ar ei babi 16 mis.

"Dros y tri mis diwetha', ma' lot o ymweliadau ni wedi bod o fewn cynlluniau social distancing - 'da ni'n gweld pobl yn yr ardd neu drwy'r drws ffrynt neu be bynnag ac mae'n gwneud pethe fel cyfrinachedd yn beth anodd i manage-io," meddai.

"Hefyd ma' pethau fatha cyfarfodydd yn cael eu gwneud dros y ffôn, ti'n colli gweld ffordd ma' pobl yn ymateb, body language pobl."

Disgrifiad o’r llun,

'Helen' (ar y dde) yn siarad gyda Sian Elin Dafydd, BBC Cymru, a David Jones o Gyngor Castell-Nedd Port Talbot

Mae gan Helen (nid ei henw iawn) o Gastell-nedd bump o blant.

Mae ei babi 16 mis yn byw gyda hi a'i chariad, ond ma' hi'n brwydro i gael y pedwar arall yn ôl.

Wrth siarad gyda BBC Cymru dywedodd bod un o'i chyn-bartneriaid wedi ymddwyn yn dreisgar.

"Pan glywes i fod y gwasanaethau cymdeithasol yn rhan o bethau - wnes i ddim mwynhau bod yn feichiog - roedd yn trawmatig - roedd yn anodd iawn i fi. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai gan unrhyw un ffydd ynof i i fod yn fam dda.

"Doeddwn ni chwaith ddim yn mwynhau y profiadau arferol da chi'n cael tra'n feichiog - fel ciciau cyntaf y babi a'r math hynny o bethau - roeddwn i ishe i bethe ddod i ben.

"Mae gen i a fy merch bond anhygoel ond ro'n ni'n ansicr ar y dechrau a fyddwn i'n ddigon da, neu a oedd hi'n mynd i gael ei chymryd oddi wrtha i.

"Dwi'n ymdrechu'n galed iawn i gael fy mhlant adref ond mae'n broses hir ac mae'r feirws wedi stopio popeth ar hyn o bryd.

"Dwi ddim wedi gallu gweld fy mhlant - yn gorfforol ers Chwefror - ro'n i fod i'w gweld nhw cyn y lockdown - mae wedi bod yn rhwystredig iawn."

Mae'r Athro Broadhurst yn canmol gwaith cynllun ar y cyd rhwng Barnardo's Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd - Fy Mabi & Fi.

Yn ôl Meinir Williams Jones o Barnardo's Cymru, maen nhw'n gweithio gyda rhieni yn gynnar yn y beichiogrwydd hyd nes bod y babi yn chwe mis oed.

Disgrifiad o’r llun,

Meinir Jones o elusen Barnardo's Cymru

"Maen nhw, yn aml iawn, wedi cael profiadau byw sy'n reit heriol," meddai, "ma nhw'n cael eu labeli'n gynnar iawn fel bo ganddyn nhw broblemau, achos dydyn nhw ddim yn dŵad i gyfarfodydd neu apwyntiadau.

"Ond os 'da chi'n teimlo'n isel - mae'n ddigon i chi godi o'ch gwely heb sôn am trio fforddio bws i fynd i wahanol lefydd."

Ers i'r cynllun ddechrau naw mis yn ôl mae'r tîm wedi gweithio gydag 17 teulu, ac o'r naw sydd eisoes wedi rhoi genedigaeth, mae saith wedi gallu cadw eu plant.

'Adnoddau ar gael'

Wrth ymateb i adroddiad yr Athro Broadhurst dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae canfyddiadau'r adroddiad yn ychwanegiad amserol at y gwaith parhaus yng Nghymru a blaenoriaeth y Prif Weinidog i leihau nifer y plant mewn gofal sy'n cael eu hel i ffwrdd o'u teuluoedd.

"Rydym yn buddsoddi mewn datrysiadau ataliol, gan ddarparu cefnogaeth hanfodol i fenywod i sicrhau bod mwy o blant yn gallu aros gartref gyda'u teulu biolegol.

Dywedodd y Llywodraeth eu bod nhw hefyd wedi darparu cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, wedi rhedeg gwasanaeth rhoi'r gorau i ysmygu ac wedi darparu arian ychwanegol ar gyfer gwasanaethau camddefnyddio sylweddau.

"Dim ond trwy ddull system gyfan y gellir sicrhau gwell canlyniadau; gweithio ar draws sectorau iechyd a chydag awdurdodau lleol, Cafcass Cymru a'r llysoedd teulu i ddarparu newid diwylliannol o well ymyrraeth gynnar a chymorth cyn genedigaeth i famau."