'Fawr ddim o wahaniaeth' â chadw pellter 1m neu 2m
- Cyhoeddwyd
Mae arbenigwr iechyd cyhoeddus sy'n cynghori Llywodraeth Cymru'n cefnogi galwadau gan berchnogion busnes i lacio'r rheol dau fetr.
Yn ôl Dr Meirion Evans dyw'r gwahaniaeth mewn risg rhwng cadw pellter o fetr neu ddau fetr ddim yn fawr iawn.
Dywed Dr Evans, sy'n cynghori Prif Swyddog Meddygol Cymru, y dylai'r rheol teithio pum milltir gael ei "hadolygu" hefyd.
Mae disgwyl cyhoeddiad cyn diwedd yr wythnos ynglŷn â llacio rhagor o gyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru.
Risg yn werth ei chymryd?
"Dyw'r gwahaniaeth mewn risg rhwng bod metr a mwy na dau fetr i ffwrdd ddim yn fawr iawn," meddai Dr Meirion Evans, sy'n cynghori Llywodraeth Cymru.
"Mater o benderfynu p'run a'i yw bod ychydig mwy o risg trwy bod yn agosach at rhywun arall, bod hi'n werth cymryd y risg yna o ran gallu gwneud llawer mwy, o ran agor siopau, agor ysgolion ac yn y blaen."
Dywed Dr Meirion Evans hefyd y dylid ystyried "pwrpas y daith yn hytrach na'r pellter" wrth ystyried y canllawiau pum milltir gafodd eu cyflwyno ddiwedd mis Mai.
"Hoffwn weld y rheol ar ba mor bell y gallwch chi deithio yn cael ei hadolygu - rwy'n credu ei bod yn bwysicach ein bod yn ystyried pwrpas y daith yn hytrach na'r pellter… Ei bod yn hanfodol. Er enghraifft, mae mynd i weld teulu yn bwysig i gymdeithas."
Mae perchnogion tafarndai yn rhybuddio na fydd rhai yn gallu agor o gwbl os ydy'r rheol dau fetr yn parhau.
Tra bod adolygiad o'r rheol yn Lloegr, nid yw Prif Weinidog Cymru wedi ymrwymo i un yma.
Yng Nghaernarfon mae nifer o fusnesau yn awgrymu atal y traffig a gosod mwy o seddi a byrddau tu allan ar hyd y maes i gyd, i'w gwneud hi'n haws i gwsmeriaid gadw at y rheolau ymbellhau cymdeithasol.
Yn ôl un gŵr busnes sy'n berchen sawl tafarn yng Ngwynedd, iechyd sy'n dod gynta', ond mae'n rhaid i fusnesau gael mwy o gymorth.
"Os na allwn ni agor erbyn mis Gorffennaf," meddai Gwyndaf Jones, perchennog Tafarn Y Castell, "dwi'm yn meddwl y byddai tai tafarndai yng Nghaernarfon yn medru agor dros y gaeaf.
"Mae ganddon ni 24 o staff a 'da ni 'di cadw nhw i gyd ar y llyfra ar hyn o bryd. Os na fydd 'na fwy o help fydd 'na redundancies, ddim jest yn lle ni ond ar draws y maes i gyd."
Mae rheolwr Clwb nos 'Copa', David Griffiths, yn ffafrio newid y rheolau i un metr, ond yn dweud y byddai cadw at ymbellhau mewn clwb nos bron yn amhosib.
"Ma capasiti ni yn mynd i fod yn chwarter be' di'o," meddai. "Os ydy o'n mynd i fod yn un metr mae'n mynd i helpu ni dipyn bach, ond dwi'n mynd i'w weld o'n ofnadwy o anodd - yn enwedig mewn tŷ tafarn, yn enwedig mewn clwb - i gadw un metr o wahaniaeth rhwng pawb."
Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach yn cynnig fod angen addasu llefydd fel canol Caernarfon, a gosod mwy o gadeiriau ar hyd y maes i ddenu cwsmeriaid i'r caffis a thafarndai, i wneud pethau'n haws i gadw pellter diogel.
"Dwi'n meddwl mai'r unig ffordd ymlaen ydy gosod rhyw fath o cordon i stopio'r ceir rhag dod i mewn i'r maes," meddai'r cynghorydd sir, Jason Parry.
"Cyn belled â bod pawb yn gw'bod be' 'di'r rheolau dwi'n eitha' ffyddiog y bysa pawb yn aros iddyn nhw."
Mae Mr Parry hefyd yn cydnabod y byddai'n rhaid i'r cyfrifoldeb dros sicrhau glendid ychwanegol gael ei rannu rhwng y cyngor a'r busnesau eu hunain.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2020