Ystyried ailagor tafarndai a bwytai ond 'dim addewidion'
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi cadarnhau fod y posibilrwydd o ganiatáu i fwytai a thafarndai ailagor mewn rhyw fodd, fel sy'n cael ei awgrymu yn Lloegr, yn cael ei ystyried.
Dywedodd Mark Drakeford fod yna "restr hir" o syniadau posib ar gyfer llacio'r rheoliadau ymhellach, ac y byddai rhestr fer yn cael ei llunio'r wythnos nesaf.
Ond fe ychwanegodd nad oedd modd gwneud addewid, gan fod "llawer iawn o geisiadau eraill yn cael eu gwneud" ar gyfer yr adolygiad nesaf o'r cyfyngiadau.
Mewn ymateb i gwestiwn am y diwydiant twristiaeth yn y gynhadledd newyddion ddyddiol, dywedodd Mr Drakeford na fydd hi'n bosib i'r diwydiant ddychwelyd eleni i fel yr oedd cyn y cyfyngiadau.
Mae hynny, meddai, yn unol â phryderon pobl am ymwelwyr yn dod i Gymru, ond dywedodd ei fod yn gobeithio darparu ryw gymorth i dwristiaeth ac y byddai llacio unrhyw gyfyngiadau yn cael ei reoli'n ofalus.
Mae llacio'r cyfyngiadau yn ddibynnol ar dystiolaeth fod lledaeniad Covid-19 yn dal ar drai, meddai Mr Drakeford.
Nododd fod nifer yr achosion newydd o Covid-19 sy'n cael eu hadrodd yn ddyddiol yn gostwng yn raddol - o 400 o achosion newydd y dydd ar ddechrau'r cyfnod clo o'i gymharu ag oddeutu 50 erbyn hyn.
Pe bai'r duedd yna'n parhau tan yr wythnos nesaf, dywedodd Mr Drakeford y bydd modd llacio mwy o gyfyngiadau pan fydd yr adolygiad nesaf.
Mae'r llywodraeth hefyd wedi cadarnhau mewn datganiad bod cyfradd R - graddfa trosglwyddiad y feirws - yn 0.8 yng Nghymru, ac yn sefydlog ar hyn o bryd.
Wrth gael ei holi am y system brofi, dywedodd Mr Drakeford ei fod yn hyderus y bydd pawb mewn cartrefi gofal - yn breswylwyr a staff - wedi cael eu profi erbyn Mehefin 12.
Diolchodd i awdurdodau lleol a Fforwm Gofal Cymru am sicrhau hynny a dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd canlyniadau'r profion ar gael yn gynt.
Dywedodd hefyd fod byrddau iechyd yn hyfforddi mwy o staff i weithio mewn unedau gofal dwys rhag ofn y bydd ail don o achosion Covid-19 yn yr hydref.
Atal ail don
Mae "popeth yn cael ei wneud er mwyn ceisio atal ail don", meddai, ond bydd angen paratoi rhag ofn i hynny ddigwydd.
Ychwanegodd fod adolygiad o ysbytai dros dro yn cael ei gynnal.
Mae'r prif weinidog hefyd wedi diolch i blant sydd wedi cyfrannu at yr arolwg cenedlaethol ar gyfnod y feirws.
Mae'n dweud bod pawb wedi cael profiad unigryw yn ystod y cyfnod yma, ond mae'n "diolch i blant a phobl ifanc Cymru am eu gwydnwch arbennig yn ystod y pandemig".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd24 Mai 2020