Honiadau o hiliaeth yn Ysgol Ddeintyddiaeth Prifysgol Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Athrofaol CymruFfynhonnell y llun, Mick Lobb/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ysgol ddeintyddol wedi'i lleoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru

Mae myfyrwyr o Ysgol Ddeintyddiaeth Prifysgol Caerdydd wedi ysgrifennu at benaethiaid yr ysgol yn honni "ymddygiad hiliol a bias" gan staff, cyd-fyfyrwyr a chleifion.

Mae'r llythyr, sydd wedi'i weld gan BBC Cymru, yn cynnwys esiamplau o'r hyn maen nhw'n ei ddweud sy'n ymddygiad anaddas tuag at fyfyrwyr du neu o leiafrifoedd ethnig.

Mae'r esiamplau hynny'n cynnwys tynnu ar fyfyrwyr am eu henwau, edrychiad neu ddillad a defnyddio iaith hiliol.

Dywedodd Prifysgol Caerdydd fod y llythyr yn "codi nifer o faterion pryderus iawn", gan gadarnhau ei fod yn edrych ar sut y gall wella.

Galw am gondemnio hiliaeth

Mae'r llythyr at uwch dîm yr ysgol ddeintyddiaeth yn dweud: "Ry'n ni'n credu, fel sefydliad addysgol, eich bod chi mewn sefyllfa i atal a thaclo hiliaeth o fewn ein cymuned prifysgol.

"Felly ry'n ni'n ysgrifennu i'ch annog i weithredu yn erbyn ymddygiad hiliol a bias anymwybodol sy'n digwydd o fewn yr ysbyty deintyddol ac amgylchedd Prifysgol Caerdydd."

Mae'r llythyr hefyd yn crybwyll hiliaeth ehangach o fewn y diwydiant - gan gynnwys un erthygl oedd yn dweud bod cleifion du yn fwy tebygol o gael daint wedi'i dynnu yn hytrach na'i drin, o'i gymharu â chleifion gwyn.

Mae'r myfyrwyr wedi gofyn i dîm rheoli'r ysgol ddeintyddiaeth i gondemnio'r hiliaeth yn yr ysgol a mynd i'r afael â'r pryderon a godwyd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Prifysgol Caerdydd bod y llythyr yn "codi nifer o faterion pryderus iawn"

Mae'r llythyr yn gorffen trwy ddweud: "Mae angen i chi wneud mwy i gynrychioli amrywiaeth yn y cwricwlwm a'ch hierarchaeth addysgu, cefnogi myfyrwyr i ddysgu a'u hannog i fod yn wrth-hiliol.

"Fel yr ydym ni yn cynrychioli'r ysgol ddeintyddol, rydych chi hefyd yn ein cynrychioli ni.

"Rydym yn erfyn arnoch i gymryd y cyfle yma i gyflawni gwir newid."

'Dim lle i hiliaeth'

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd bod y llythyr yn "codi nifer o faterion a digwyddiadau honedig pryderus iawn".

"Fel prifysgol ac ysgol ddeintyddol ry'n ni'n ystyried honiadau o hiliaeth yn ddifrifol iawn," meddai.

"Mae gennym fesurau mewn lle i sicrhau bod honiadau o'r math yma yn cael ei ymchwilio a bod gweithredu priodol.

"Mae'n bwysig fod y brifysgol a'r ysgol yn ystyried cynnwys y llythyr ac asesu pa weithredu sydd ei angen yn syth ac yn y tymor hir.

"Rydym yn benderfynol o greu cymuned wedi'i seilio ar urddas, cwrteisi a pharch. Does gan hiliaeth ddim lle yma."