Protest yn erbyn codi ysbyty ar gyrion Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae dros 250 o bobl wedi cynnal protest yn erbyn cynlluniau i godi canolfan ganser newydd gwerth £180m ar gyrion Caerdydd.
Fe wnaeth y protestwyr, oedd yn cadw at reolau ymbellhau, alw ar Ymddiriedolaeth Ysbyty Felindre i roi'r gorau i'w cynlluniau i ddefnyddio safle ar gaeau i'r gogledd o'r Eglwys Newydd.
Maen nhw'n dadlau y byddant yn colli tir gwyrdd, a bod dros 10,000 wedi arwyddo deiseb ar-lein yn gwrthwynebu.
Dywed yr ymddiriedolaeth mai hwn yw'r unig safle addas.
Mae 'na ganiatâd cynllunio ar gyfer ysbyty ar y safle ers dwy flynedd ond mae problemau wrth drefnu mynediad i'r safle wedi achosi oedi.
Dywedodd Tessa Marshall, un o drefnwyr y ddeiseb, fod angen diogelu tiroedd gwyrdd yn y ddinas.
"Bydd pobl leol yn colli mynediad i lefydd gwyrdd a hynny yng nghanol pandemig lle mae pobl fod i ymarfer corff yn lleol", meddai mewn cyfweliad gyda BBC Cymru y mis hwn.
"Dyw e ddim yn ystyried lles tymor hir y gymuned."
Mae Ymddiriedolaeth Ysbyty Felindre yn dadlau y byddan nhw'n arbed arian wrth ddefnyddio safle sy'n eiddo i'r bwrdd iechyd lleol.
Maen nhw hefyd wedi dweud y bydd dal modd i bobl ddefnyddio'r caeau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2016