Argymell cadw uned frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Brenhinol MorgannwgFfynhonnell y llun, Google

Mae BBC Cymru yn cael ar ddeall fod penaethiaid iechyd lleol yn argymell cadw uned frys 24 awr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant.

Yn gynharach eleni fe fu Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn trafod cynlluniau fyddai wedi gweld yr uned naill ai yn cau yn ystod y nos neu'n cau'n gyfan gwbwl - ag uned man-anafiadau yn cael ei sefydlu yn ei lle.

Ond mewn dogfen fydd yn cael ei thrafod gan y Bwrdd Iechyd ddydd Llun nesaf - fe fydd rheolwyr yn dweud eu bod wedi recriwtio digon o staff i ddiogelu'r uned lawn.

Mae disgwyl i ymgyrchwyr a gwleidyddion lleol groesawu'r cam.

Diogelwch cleifion

Yn gynharach eleni roedd penaethiaid yn rhybuddio fod diogelwch cleifion mewn perygl oherwydd prinder staff difrifol yn adran gofal brys yr ysbyty.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd protestiadau eu cynnal ynglŷn â'r posibilrwydd o gau'r adran frys

Ers tro mae'r uned wedi bod yn or-ddibynnol ar feddygon dros dro - a bu'n rhaid ei chau ar fyr rybudd ddwywaith dros gyfnod y Nadolig oherwydd prinder meddygon.

Oherwydd y problemau fe fu'n rhaid i ambiwlansys gael eu hanfon i Ysbyty'r Tywysog Charles ym Merthyr Tudful ac i Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Roedd unig feddyg ymgynghorol llawn amser yr adran wedi cyhoeddi y byddai'n gadael ym mis Ebrill a datgelwyd mai ond 12% o shifftiau meddygon iau oedd yn cael eu llenwi gan feddygon llawn amser.

Mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn wynebu prinder o feddygon brys dros Brydain, gydag unedau trawma mwy o faint yn ei chael hi'n haws recriwtio.

Disgrifiad o’r llun,

Ymgyrchwyr yn protestio tu allan i'r Senedd fis Chwefror

Ymgyrchu

Yn gynharach eleni cafodd nifer o brotestiadau eu cynnal ym Mae Caerdydd ac y tu allan i gyfarfodydd y bwrdd iechyd yn gwrthwynebu cynnig i israddio'r uned frys.

Yn ôl ymgyrchwyr fe fyddai'r cynllun yn peryglu bywydau, yn enwedig o ystyried cysylltiadau teithio gwael rhwng rhai cymunedau yn y cymoedd.

Ac fe gafon nhw eu cythruddo ar ôl i gyfarwyddwr meddygol y bwrdd iechyd awgrymu wrth bwyllgor y Senedd nad oedd ymdrech gadarn wedi bod i recriwtio meddygon brys i'r ysbyty am bum mlynedd.

Cynllun israddio

Yn 2014 daeth pump o fyrddau iechyd ynghŷd i lunio cynllun i ymateb i bryderon fod gwasanaethau i famau, babanod, plant a gofal brys wedi eu gwasgaru'n rhy denau ar draws y de.

Ar ôl ymgynghoriad cyhoeddus fe gytunodd y byrddau iechyd ynghŷd â chynghorau iechyd cymuned ar gyfres o argymhellion yn cynnwys israddio uned frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Ond bach iawn o newidiadau sydd wedi digwydd i'r uned yn y cyfnod ers hynny - ac yn ôl gwrthwynebwyr roedd angen ailedrych ar y cynllun cyfan.

Mae gwasanaethau mamolaeth arbenigol yn yr ardal eisoes wedi cael eu canoli ar un safle - yn Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr Tydfil.

Ond mae na oedi wedi bod droeon yn y cynlluniau i ailstrwythuro gofal i blant.

Ymateb gwleidyddol

Wrth ymateb i'r newyddion am yr uned frys, dywedodd aelodau Llafur seneddau San Steffan a Senedd Cymru dros Ogwr, Chris Elmore a Huw Irranca-Davies mewn datganiad ar y cyd:

"Mae'r cadarnhad heddiw y bydd uned frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn parhau i fod yn un 24 dan arweiniad ymgynghorwyr yn newyddion i'w groesawu, ac mae'n destament i ymgyrchu diflino miloedd o drigolion lleol ar hyd Rhondda Cynon Taf.

"Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'n etholwyr o etholaeth Ogwr a chydweithwyr traws-bleidiol ar draws Rhondda Cynon Taf i sicrhau dyfodol y gwasanaethau hanfodol hyn ac maen wych clywed fod yr ymdrechion hyn wedi talu ar eu canfed."

Ychwanegodd y datganiad: "Mae'n hanfodol fod ein cymunedau yn cael mynediad rhwydd i'r gwasanaethau gofal iechyd gorau posib ac mae argymhellion heddiw wedi helpu i sicrhau mai hyn fydd yr achos yn y blynyddoedd i ddod."

'Newyddion gwych'

Gwleidydd arall i groesawu'r newyddion am ddyfodol yr adran frys oedd yr AS Ceidwadol dros Ganol De Cymru, Andrew RT Davies:

"Dyma newyddion gwych fydd yn cael ei groesawu'n gynnes gan drigolion a chymunedau ar hyd de Cymru a'r cymoedd.

"Hoffwn dalu teyrnged i ymgyrchwyr lleol oedd wedi lleisio eu barn mor gryf gan orfodi penaethiaid y bwrdd iechyd a gweinidogion Llywodraeth Cymru i dalu sylw a gwrando."

Daeth croeso i'r newyddion o gyfeiriad Plaid Cymru hefyd, gyda AS y blaid dros y Rhondda, Leanne Wood yn dweud fod "hon wedi bod yn fuddugoliaeth wych i rym y bobl ac fe hoffwn dalu teyrnged i bawb ddaeth i'n cyfarfodydd cyhoeddus, arwyddodd deisebau, ysgrifennodd at y gweinidog iechyd Llafur a mynychu ralïau.

"Fy neges i bawb oedd wedi cymryd rhan yw eich bod wedi eich gweld, eich clywed ac fe lwyddo chi i gadw ein huned frys 24 awr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Diolch yn fawr i chi i gyd."