Dull newydd o daclo ail don gan beirianwyr Cymru

  • Cyhoeddwyd
Meddyg yn archwilio clafFfynhonnell y llun, Photofusion

Dylai lefelau ocsigen gael eu monitro mewn cleifion yn y gymuned i helpu ysbytai ymdopi ag ail don o achosion coronafeirws, yn ôl prif ddoctor anadlol Cymru.

Dywedodd Dr Simon Barry ei bod hi'n amlwg "yn gynnar" yn y pandemig bod lefelau isel o ocsigen yn y gwaed yn awgrymu bod claf wedi dal y feirws.

Ond dywedodd y byddai cynnydd mewn achosion yn y gaeaf, pan fydd ffliw a niwmonia hefyd yn fwy cyffredin, yn golygu y byddai angen mwy o fonitro yn y gymuned.

Mae Dr Barry'n arwain y gwaith o ddosbarthu canllawiau doctoriaid Cymru i drin y feirws, a dywedodd fod gwaith ar y gweill i gynnal profion penodol cyn derbyn cleifion coronafeirws i'r ysbyty yn y dyfodol.

Dim ond symptomau ysgafn sydd gan fwyafrif y cleifion coronafeirws, a dim symptomau o gwbl yn achos rhai. Ond mae meddygon wedi nodi lefelau isel o ocsigen yn y gwaed ymhlith y rhai sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty gyda Covid-19.

Fel rheol mae gan oedolion iach lefelau ocsigen yn y gwaed rhwng 94% a 99%. Ond mewn cleifion Covid-19 gallan nhw fod dan 90%, sy'n golygu fod angen therapi ocsigen arnyn nhw ac, mewn rhai achosion, triniaeth mewn uned gofal dwys.

Disgrifiad o’r llun,

Dr Simon Barry yw prif ymgynghorydd anadlol Cymru ac mae wedi trin cleifion Covid-19

Mae Dr Barry wedi datblygu gwefan sy'n cyflwyno'r canllawiau triniaeth diweddaraf i feddygon ymhob un o ysbytai Cymru.

Dywedodd: "Yn gynnar iawn, roedd cydnabyddiaeth glir bod y clefyd hwn wedi achosi methiant oxygenation mewn cleifion. Roedd gan... yr 20% o gleifion sy'n mynd yn sâl lefelau ocsigen isel, ac fe ddaethon nhw i'r ysbyty gyda lefelau ocsigen isel."

Ychwanegodd fod llawer mwy o gleifion wedi cael eu trin â dyfais CPAP nag yr oedd wedi ei ragweld cyn i'r pandemig gyrraedd. Mae'r driniaeth yn golygu gwisgo mwgwd tynn sy'n cyflenwi llif parhaus o ocsigen tra bod y claf yn effro, ac mae'r broses yn gallu osgoi'r angen i symud i beiriant anadlu mecanyddol.

"Rydyn ni wedi dysgu y gallwch chi reoli cleifion â methiant oxygenation eithaf gwael ar y wardiau, gan ddefnyddio CPAP, a'u cael i orwedd ar eu ffrynt.

"Rydyn ni hefyd yn gwybod, os ewch chi i ITU [a'ch rhoi ar beiriant anadlu], mae gennych chi siawns uwch o farw. Mae tua 70% os ydych chi wedi'ch rhoi i gysgu a'ch cysylltu i beiriant anadlu."

Profion yn y gymuned

Mae dal y feirws yn gynnar yn allweddol wrth ddarparu'r driniaeth orau, a gallai monitro lefelau ocsigen gwaed fod yn hanfodol wrth benderfynu a oes gan rywun Covid-19 neu salwch anadlol arall.

Mae Dr Barry yn dweud y byddai twf mewn achosion yn y gaeaf yn golygu fod Covid-19 yn gymysg ag achosion ffliw a niwmonia.

"Bydd hynny'n golygu ei bod hi'n anodd eithriadol rheoli'r cleifion hyn mewn ffrydiau diogel o fewn yr ysbyty. Mae hynny'n golygu bod angen gwneud y gwaith diagnosteg yn y gymuned. Dyna ry'n ni'n canolbwyntio arno ar hyn o bryd.

"Ry'n ni'n edrych ar fecanwaith fydd yn ein galluogi i wneud yr holl brofion penodol hyn yn y gymuned. Gyda meddygon teulu, ond hefyd gan ddefnyddio criwiau ambiwlans Cymru, felly bydd modd iddyn nhw wneud diagnosis penodol o fewn munudau."

Disgrifiad o’r llun,

Yr Athro Nigel Copner yw arweinydd gwaith datblygu dyfais newydd i fesur lefelau ocsigen yn y gwaed

Mae peirianwyr ym Mhrifysgol De Cymru wedi derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i greu ocsimedr newydd - dyfais gludadwy, fydd yn costio £50, all fesur lefelau ocsigen gwaed yn fanwl gywir.

Dywedodd yr Athro Nigel Copner, arweinydd cynllun yn Nhrefforest i ddatblygu'r ocsimedr yn gyflym, y byddai'r dyfeisiau'n barod "o fewn wythnosau" ac mai cleifion Cymru fydd y cyntaf i'w defnyddio.

"Yn amlwg mae gan Gymru'r galw cyntaf, gan mai Llywodraeth Cymru sydd wedi ariannu'r prosiect. Ac mae gennym gytundeb gyda Sony [ym Mhencoed] i'w cynhyrchu. Gall y gwaith o gynhyrchu'r ddyfais ddigwydd yn gyflym iawn."

Bydd y ddyfais yn cael ei defnyddio mewn ymateb i unrhyw don newydd o'r feirws, a dywedodd yr Athro Copner fod rhaid ei gynhyrchu heb ddibynnu ar gyflenwyr traddodiadol oherwydd y galw byd-eang am beiriannau mesur lefelau ocsigen.

"Does dim rhannau o'r ddyfais yn ymwneud â'r gadwyn gyflenwi sydd eisoes wedi cysylltu â chreu ocsimedrau traddodiadol. Ac felly gallwn weithgynhyrchu ac adeiladu'r ddyfais hon yn hawdd iawn yn ne Cymru, a gallwn gynhyrchu niferoedd uchel mewn ychydig wythnosau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gobaith y bydd yr ocsimedr newydd ar gael ar draws Cymru mewn wythnosau

Mae doctoriaid hefyd wedi ymateb mewn ffyrdd arloesol yn ystod y pandemig.

Dywedodd Dr Barry fod gwefan newydd i hyfforddi staff mewn ysbytai wedi helpu doctoriaid i ddarparu'r driniaeth orau, wrth i wersi gael eu dysgu ac arfer gorau gael ei rannu'n gyflym â chydweithwyr.

"Yn draddodiadol yng Nghymru mae gennym saith bwrdd iechyd sy'n gwneud pethau mewn saith ffordd wahanol.

"Ond pe byddech chi'n sefyll uwch ei ben ac edrych i lawr, mae'n edrych fel ffordd hynod aneffeithlon ac aneffeithiol i reoli pethau.

"Os ydych chi'n delio â rhywun â niwmonia, dydych chi ddim am gael saith cwrs gwahanol o wrthfiotigau i'w trin - rydych chi eisiau ffordd safonol. Ac yna pan ddaw Covid, mae gennych chi'r holl wahanol fyrddau iechyd hyn a'r holl ganllawiau lleol gwahanol hefyd.

"Rydyn ni'n ceisio codi uwchlaw hynny trwy ddweud, 'Drychwch, dyma'r canllaw cenedlaethol'. Rydyn ni'n cael arbenigwyr yng Nghymru i siarad am ddiweddariadau [ar fideo] ac yn siarad am yr hyn a ddylai fod yn arfer gorau. Ac mae hynny'n ymddangos yn ffordd resymegol i symud ymlaen."

Mae'r wefan, sydd ar gael i holl doctoriaid Cymru, wedi cofnodi dros 4,000 o ddefnyddwyr yn ystod y pandemig ac mae dros 1,400 o feddygon ymgynghorol Cymru bellach yn troi ato am y canllawiau diweddaraf ac i'w gweld ar ffurf fideo byr.