Dim cefnogaeth am gyfnod clo arall yn Llangefni

  • Cyhoeddwyd
Y cynghorydd Nicola Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Y cynghorydd Nicola Roberts yn cael ei chyfweld am sefyllfa 2 Sisters, Llangefni

Mae un o gynghorwyr ardal Llangefni wedi dweud nad yw hi eisiau gweld cyfyngiadau lleol yn cael eu cyflwyno i reoli lledaeniad Covid-19, onibai bod wirioneddol rhaid.

Daw hyn wedi iddi ddod i'r amlwg bod 175 o weithwyr ffatri gig 2 Sisters wedi'u heintio a'r coronafeirws, a phob un o'r 560 aelod o staff yn hunan ynysu.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Prif Weinidog wedi dweud bod gorfodi cyfyngiadau clo lleol yn un ystyriaeth er mwyn ceisio rheoli'r haint.

Ar y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru dywedodd Nicola Roberts nad yw hi eisiau gweld hynny'n digwydd onibai bod hynny'n gwbl hanfodol.

"Mae hi wedi bod yn wythnosau, misoedd anodd hefo'r lockdown. Faswn i ddim yn lecio ei weld o'n waeth na be ydi o ar hyn o bryd ond mi faswn i'n barod i groesawu be bynnag sydd ei angen er mwyn diogelu cymunedau.

"Gobeithio ei fod wedi ei ddal ymhlith y gweithwyr a ddim wedi ei ledaenu i'r gymuned ehangach," meddai'r cynghorydd.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfyngiadau lleol yn cael eu hystyried ym Môn

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething, nad oedd yn gweld angen am gyfyngiadau lleol, yn dilyn achosion o'r haint mewn tri lleoliad yng Nghymru.

Mae 70 o achosion o'r feirws yn ffatri Rowan Foods yn Wrecsam a 34 achos wedi eu cadarnhau yn ffatri brosesu cig Kepak ym Merthyr.

"Os ydym am gael cyfyngiadau lleol yn ychwanegol i'r gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu ac ynysu cartrefi, yna mae'n rhaid gwybod beth rydym yn ceisio'i gyflawni.

"Mae nifer o wahanol gamau y gallwn gymryd. Y cyntaf yw ein bod wedi adnabod bod digwyddiad ac achosion. Yr ail yw'r ffordd y mae'r system Profi, Olrhain a Diogelu yn gweithio o gwmpas yr achosion hynny."

Os oedd pobl yn dilyn y cyngor ac yn hunan ynysu roedd hynny'n ddull effeithiol o dargedu'r gweithlu a phawb sy'n dod i gysylltiad a hwy.

"Mae'n rhaid gwneud yn siwr fod pobl yn dilyn y cyngor hwnnw," meddai.

Roedd gan swyddogion Iechyd Cyhoeddus Cymru bwerau i orfodi hunan ynysu, meddai, ond roedd hwnnw'n "gam gwahanol", meddai.

Brynhawn Llun, dywedodd Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru bod rhaid gweld sut mae'r haint yn datblygu cyn gwneud penderfyniad ynglŷn â chyflwyno cyfyngiadau lleol.

"Ry'n ni'n parhau i ddisgwyl rhai canlyniadau profion," meddai, "ac mae'n debyg y bydd nifer yr achosion yn codi ond mae mesurau priodol wedi'u cyflwyno i ddelio â'r haint.

"Wrth i gyfyngiadau gael eu llacio, fe allwn ddisgwyl ambell glwstwr fel hyn o achosion. Maent yn achosi pryder a rhaid i ni ymateb yn gyflym," ychwanegodd.

Wrth siarad ddydd Llun dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y byddai yn gorfodi cyfyngiadau clo lleol petai rhaid, ond y byddai unrhyw gamau yn seiliedig ar y dystiolaeth.

Mae'r Aelod Seneddol Ceidwadol Ynys Môn, Virginia Crosbie wedi galw am archwiliad annibynnol o'r safle cyn i'r ffatri ailagor.

Pam bod gweithwyr prosesu cig yn cael eu heintio?

Dim ond un o nifer o ffatrïoedd prosesu bwyd ym Mhrydain sydd wedi gweld clwstwr o achosion Covid 19 yw 2 Sisters. Mae clystyrau wedi ymddangos mewn ffatri gig yn Wrecsam ac yng ngorllewin Efrog hefyd. Dramor, mae clystyrau wedi ymddangos mewn ffatrïoedd cig yn yr Almaen, Ffrainc, Sbaen ac America.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn ôl Bev Clarkson o undeb Unite, "Mae Unite wedi rhybuddio sawl gwaith bod 'na debygolrwydd cryf y byddai coronafeirws yn ymledu mewn ffatrioedd prosesu cig led led Prydain."

Pam bod yr haint yn lledu mewn ffatrioedd cig?

Mae pobl yn cael eu heintio a'r coronafeirws drwy ddiferion bach sy'n cael eu peswch, tisian neu eu hanadlu o berson arall sydd wedi'u heintio.

Gallai'r haint ddod drwy gyswllt agos a'r person, neu drwy gyffwrdd arwynebedd sydd wedi'u heintio.

"Mae ffatrïoedd yn enwedig, llefydd tu fewn sy'n oer a llaith, yn amgylchedd berffaith i'r feirws ledu," meddai Lawrence Young, Athro mewn Oncoleg Moleciwlar ym Mhrifysgol Warwick.

"Mae diferion sy'n cynnwys y feirws yn fwy tebygol o ledu, setlo ac aros yn fyw."

Theori arall yw bod gweithfeydd lle mae peiriannau oeri swnllyd yn golygu bod rhaid i weithwyr weiddi'n uwch i gael eu clywed, a hyn yn cynyddu ymlediad y diferion peryglus.

Mae arbenigwyr hefyd yn damcaniaethu ei bod hi'n anodd cadw pellter o ddwy fetr ar linell gynhyrchu, a bod diffyg golau dydd naturiol yn helpu'r feirws oroesi.

Sut mae modd gwarchod staff ?

Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau am sut i weithio'n ddiogel wrth brosesu bwyd - yn cynnwys cadw gweithwyr o leiaf ddwy fetr ar wahân lle bo modd.

Mae'r BMPA - Cymdeithas Brosesu Cig Prydain - hefyd wedi cyhoeddi canllawiau sy'n cynnwys glanhau ffatrïoedd yn amlach nag arfer, ynysu aelodau o staff sy'n datblygu symptomau a chyflwyno oriau dechrau a gorffen gwaith ar adegau gwahanol i wasgaru staff.

Mae 'na awgrym hefyd y dylai gweithwyr wisgo offer gwarchod personol, PPE, ychwanegol os oes peth ar gael. Mae staff mewn safleoedd prosesu cig yn aml yn gwisgo PPE, ond dydi mwgwd ddim fel arfer yn rhan o'r wisg arferol.

Mesurau gwledydd eraill

Damcaniaeth dan sylw yn yr Almaen yw bod nifer o weithwyr mewn ffatrïoedd cig o Ddwyrain Ewrop heb sgiliau iaith digonol na hyfforddiant i ddeall y canllawiau am sut i atal y feirws rhag lledu.

Mae adroddiad o'r Ganolfan Atal Afiechydon yn America wedi argymell arafu'r broses gynhyrchu a chyflwyno rhwystrau corfforol rhwng staff, sicrhau bod pawb yn gwisgo mygydau a sicrhau nad oes unrhyw un ar eu colled yn ariannol wrth hunan ynysu.