Ymateb i boster ymgyrch BLM yn siomi perchnogion caffi
- Cyhoeddwyd
Mae perchnogion caffi a becws yn Aberteifi wedi datgan siom yn dilyn cwynion ar y cyfryngau cymdeithasol am eu poster yn hyrwyddo'r ymgyrch Mae Bywydau Du o Bwys.
Mae Catrin ac Osian Jones, sy'n rhedeg caffi Crwst, wedi ymateb yn gyhoeddus i'r sylwadau hynny, ac wedi cael cefnogaeth eang.
Cafodd y poster ei osod yn y caffi bythefnos yn ôl, tua'r adeg pan gynhaliwyd gorymdaith Mae Bywydau Du o bwys yn Aberteifi.
Daeth ymateb negyddol ar y cyfryngau cymdeithasol gyda rhai yn defnyddio'r slogan dadleuol "Mae bywydau pawb o bwys" ac un sylw yn nodi yn Saesneg fod y poster "hyd yn oed yn Gymraeg".
Mae eraill yn dweud fod y poster yn eu pechu.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Nid dyma'r ymateb yr oedd Osian Jones wedi ei ddisgwyl.
"Amser welon ni'r sylwadau i gyd ambiti'r poster yn y ffenest, o'n i'n shocked," meddai.
"O'n i ffaelu credu faint o bobl oedd yn erbyn y poster. Ers hynny, naethon ni roi post ar Twitter, Facebook ac Instagram yn rhoi comments ni lan, ac mae popeth 'di troi ar ei ben."
Mae Osian a Catrin Jones wedi ymateb yn gyhoeddus gan nodi y bydd y poster yn aros, a'u bod yn gwbwl gefnogol i'r ymgyrch Mae Bywydau Du o Bwys, neu Black Lives Matter (BLM).
Mae safiad y ddau wedi cael cefnogaeth eang ar y cyfryngau cymdeithasol, ond mae rhai cwsmeriaid wedi dweud y byddan nhw'n cadw draw o'r caffi oherwydd y poster.
"I fod yn onest, roedd y sylwadau cadw bant wedi synnu fi ac Osian," meddai Catrin.
"Roedd e'n drist i weld fod rhai o'n cwsmeriaid ffyddlon yn ddigon hyderus i ddweud bo' nhw ddim yn mynd i gefnogi Crwst ar ôl i ni ailagor oherwydd fod poster Black Lives Matter yn y ffenestr.
Felly mae e eitha trist fod pobol yn ddigon parod i boicotio Crwst oherwydd ein bod ni'n cefnogi mudiad anti-racist.
Ychwanegodd: "Mae'n bwysig fod busnesau neu unrhyw berson neu gwmni sy' gyda llais yn y gymuned yn codi ymwybyddiaeth am bwnc mor bwysig.
"Bydde fe'n wych i weld mwy o fusnese'r stryd fawr yn cefnogi'r symudiad gyda phoster Black Lives Matter yn eu ffenestri."
Mae Osian yn cytuno, gan ddweud: "Ni'n dwli ar Aberteifi ac yn dwli ar ein cwsmeriaid, ond mae dyletswydd arnon ni i godi'n lleisie."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2020