Dysgu ar-lein yn debygol o barhau 'am gryn amser'
- Cyhoeddwyd

Mae dysgu ar-lein o adref yn debygol o barhau'n rhan o addysg plant "am gryn dipyn o amser", meddai'r Gweinidog Addysg.
Bydd disgyblion yn dychwelyd i'r dosbarth ddydd Llun nesaf, ond dim ond ychydig ddyddiau y byddan nhw'n treulio yno dros yr wythnosau nesaf oherwydd yr angen i gadw dau fetr ar wahân.
Ar hyn o bryd does dim sicrwydd pryd y bydd modd dychwelyd i'r ysgol yn llawn.
Dywedodd Kirsty Williams wrth gynhadledd newyddion ddyddiol Llywodraeth Cymru: "Rwy'n amau y bydd angen i ni barhau gyda chymysgedd o ddysgu ar-lein a chyswllt wyneb yn wyneb gydag athrawon am gryn dipyn o amser."

Kirsty Williams wnaeth annerch cynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru ddydd Mercher
Ychwanegodd ei bod yn dal yn ystyried y posibilrwydd y gallai plant ddychwelyd i'r ysgol yn ôl yr arfer ym mis Medi.
"Bydd yn rhaid i ni gynllunio ar gyfer nifer o opsiynau, ond byddwn yn parhau i ddilyn y wyddoniaeth ar hynny," meddai.
"Dydw i'n bendant ddim wedi diystyru unrhyw beth eto."

Bydd rhieni ddim yn cael eu cosbi am gadw eu plant o'r ysgol wedi iddyn nhw ailagor ddydd Llun
Yn ôl Ms Williams mae yna 'na "amryw o resymau" pam y bydd nifer o ysgolion yn dychwelyd am dair wythnos yn unig, nid pedair, er gwaethaf gwaith caled staff ac athrawon.
Ond dywedodd ei bod "yn obeithiol" y bydd rhieni'n hyderus bod hi'n ddiogel i ddisgyblion ddychwelyd i'r ystafell ddosbarth yr wythnos nesaf.
"Rydyn ni wedi ceisio cydnabod a pharchu barn rhieni," meddai. "Ond mae hefyd yn bwysig iawn...ein bod ni'n magu hyder rhieni fel eu bod nhw eisiau gwneud penderfyniad positif i anfon eu plant yn ôl i'r sesiwn, ac rwy'n obeithiol ein bod wedi gallu cyflawni hynny."


Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2020