Plant 'ar ei hôl hi' oherwydd diffyg gwersi ar-lein
- Cyhoeddwyd
Mae plant yng Nghymru yn cael eu "gadael ar ôl" gan ddiffyg gwaith ysgol ar-lein yn ystod y cyfnod cau coronafeirws, meddai Plaid Cymru.
Canfu arolwg gan Goleg Prifysgol Llundain (UCL) mai dim ond 1.9% o ddisgyblion Cymru oedd yn cael pedair gwers ar-lein ddyddiol neu fwy.
Dywedodd Francis Green, awdur yr adroddiad, y byddai'r diffyg addysgu yn "gwaethygu'r anghydraddoldebau presennol".
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod ei llwyfan ar-lein yn chwarae "rôl hanfodol" wrth helpu addysg.
Cymru ar ôl gweddill y DU
Cafodd gwersi ar-lein eu categoreiddio fel cyfarfodydd byw rhwng athrawon a disgyblion dros y rhyngrwyd, a oedd yn llai cyffredin na gwersi ar-lein, sy'n cynnwys taflenni gwaith ac aseiniadau.
Canfu'r adroddiad fod 1.9% o fyfyrwyr yng Nghymru yn derbyn pedair gwers ar-lein neu fwy y dydd, o'i gymharu â chyfartaledd y DU o 7%.
Derbyniodd ychydig dros chwarter y myfyrwyr ddwy i dair awr o ddysgu ar-lein, tra bod 72.5% wedi cyrchu awr neu lai.
Dywedodd Sian Gwenllian, gweinidog addysg gysgodol Plaid Cymru, fod canlyniadau'r arolwg yn "anhygoel o siomedig".
Meddai: "Mae miloedd o blant yn cael eu gadael ar ôl ac mae'r bwlch cyrhaeddiad rhwng y rhai o'r cefndiroedd mwyaf breintiedig a'r rhai o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig ond wedi ehangu.
Angen 'mwy o ddata ar frys'
"Dylid edrych ar frys ar flaenoriaethau rhaglen gysylltedd Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau nad yw cysylltedd digidol yn rhwystr i blant difreintiedig a'u haddysg.
"Mae angen mwy o ddata, mwy o ymchwil a mwy o dryloywder arnom ar frys.
"Mae'n anhygoel nad yw Llywodraeth Cymru yn barod yn casglu data ac yn gosod targedau. Mae angen i ni wybod faint o ddisgyblion sydd heb liniadur personol na mynediad cywir i'r rhyngrwyd. Rhaid i ni wybod faint o ddisgyblion sy'n mewngofnodi i'w haddysg - a faint sydd heb gyswllt o gwbl. "
'Dal cenhedlaeth gyfan yn ôl'
Cadarnhaodd Francis Green, athro economeg gwaith ac addysg yn UCL, fod Cymru y tu ôl i weddill y DU mewn rhai meysydd addysg ar-lein.
"Yr ofn mwyaf yw y bydd addysg cenhedlaeth gyfan yn cael ei dal yn ôl yn sylweddol," meddai wrth BBC Radio Wales.
"Hyd yn oed os yw plant yn cael eu hamddifadu am wythnosau heb sôn am fisoedd yna mae effeithiau sylweddol ar eu datblygiad addysgol.
"Bydd yr effeithiau'n gwaethygu'r anghydraddoldebau presennol."
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae ysgolion yng Nghymru yn defnyddio ystod eang o ddulliau i sicrhau parhad dysgu i ddisgyblion gyda chefnogaeth ein cynllun addysg yn ystod y pandemig.
"Mae ein platfform dysgu ar-lein blaenllaw Hwb yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi cyflwyno addysg yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn, gyda chyfartaledd o 2.5m o fewngofnodion bob mis dros y tri mis diwethaf - cynnydd o 134% ar y flwyddyn flaenorol.
"Cafwyd hefyd dros 9.5m o ymweliadau â thudalennau bob mis dros yr un cyfnod - cynnydd o 157% ar y flwyddyn flaenorol. Mae mwy na 99% o ysgolion yn cymryd rhan weithredol yn defnyddio'r platfform.
"Ein bwriad yw defnyddio wythnosau olaf tymor yr haf i sicrhau bod disgyblion, staff a rhieni'n barod - yn feddyliol, yn emosiynol ac yn ymarferol - ar gyfer yr arferol newydd ym mis Medi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd19 Mai 2020