Sut fydd bywyd ysgol yn newid mewn pandemig?

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Sut mae ysgolion yn paratoi i gael plant yn dychwelyd?

Ar 29 Mehefin bydd ysgolion Cymru yn ailgychwyn eu tymor ysgol wedi saib o 12 wythnos.

Gydol yr amser ers i'r cyfyngiadau gael eu cyflwyno mae plant wedi bod yn gwneud gwaith yn eu cartrefi, neu mewn hwb gofal, gyda'r mwyafrif o athrawon hefyd yn gweithio o adref.

Ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ar 3 Mehefin y byddai ysgolion yn cael agor unwaith eto, ond gyda mesurau ymbellhau cymdeithasol yn eu lle, mae stafelloedd dosbarth wedi gorfod cael eu haddasu.

Ac er bod y rhieni sydd yn dymuno i'w plant ddychwelyd i'r ysgol wedi cael gwybod y bydd yr ysgolion ar agor iddyn nhw, yn y mwyafrif o achosion mae dosbarthiadau llai yn golygu mai dim ond am ddiwrnod neu ddau neu hanner diwrnod ar y mwyaf y bydd disgyblion yn mynd yno.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Cyngor RhCT

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Cyngor RhCT

Sut fydd ysgolion yn edrych o hyn ymlaen?

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau canllawiau i ysgolion , dolen allanolwrth iddyn nhw geisio sicrhau diogelwch o fewn lleoliadau addysg. Bydd y canllawiau hyn yn cael eu diweddaru i gefnogi ysgolion a lleoliadau i baratoi ar gyfer yr hydref.

Mae'r canllawiau yn argymell:

  • Dim ond traean o ddisgyblion yn yr ysgol ar unrhyw adeg;

  • Rhoi disgyblion mewn i grwpiau llawer llai;

  • Gwneud y rhan fwyaf o'r gweithgareddau yn yr awyr agored pan fo hynny'n bosib;

  • Gosod byrddau a chadeiriau 2m i ffwrdd o'u gilydd;

  • I blant ddod â'u cyfarpar ysgrifennu eu hunain i bob sesiwn, a'u potel ddŵr eu hunain hefyd;

  • Un aelod o staff i weithio gyda'r un grŵp o ddysgwyr dros amser;

  • Ar gyfer plant oed ysgol uwchradd, dylai ysgolion a lleoliadau geisio sicrhau y cedwir pellter cymdeithasol o ddau fetr pan fo'n bosibl.

Mae disgwyl i blant ac athrawon olchi eu dwylo wrth gyrraedd yr ysgol a gydol yr amser yno.

Sut fydd ysgolion yn sicrhau glendid?

Mae penaethiaid ysgolion yn dweud taw sicrhau diogelwch a lles meddyliol plant fydd y flaenoriaeth wrth ailagor i fwy o ddisgyblion wedi'r argyfwng. "Mae sicrhau bod yr ysgolion yn ddiogel yn ystod y cyfnod yma wedi bod yn hynod o anodd ac mae wedi bod yn goblyn o her i ymateb," medd Gareth Owen o NAHT Cymru.

"Beth sydd wedi bod yn greiddiol yw'r asesiadau risg. 'Dan ni wedi gorfod adnabod lle mae'r risgiau ac ymateb i hynny," meddai.

"Mae'n ddibynnol hollol ar faint ysgol dy ysgol di, ar faint dy ddosbarthiadau di, ar gapasiti dy ysgol di, ac er mwyn i ni sicrhau bod pellter cymdeithasol yn disgwyl. A dyna lle mae wedi bod yn anodd."

Fydd yna ddim celfi meddal yn yr ystafelloedd dim ond celfi sy'n hawdd i'w glanhau. Dim ond celfi hanfodol sydd wedi eu cadw o fewn dosbarthiadau fel rhan o'r mesurau glendid hefyd.

Bydd rhai ysgolion yn agor am dri neu bedwar diwrnod o'r wythnos ac yn cael un diwrnod i lanhau'n drylwyr.

Sut mae modd cadw pellter 2m?

Mae pob ysgol yn wahanol a bydd canllawiau gwahanol ar gyfer pob adeilad.

Bydd disgyblion wedi'u rhannu i grwpiau bychain o 8 neu lai er mwyn lleihau cymysgu.

"Mae rhai ysgolion wedi cyflwyno systemau unffordd," medd Gareth Owen o NAHT Cymru, "Mae gan rai ysgolion nifer o fynedfeydd, felly beth maen nhw'n ei wneud yw gweithio ar fynedfa ar gyfer criw o ddisgyblion fel nad oes gormod o unigolion yn cymysgu â'i gilydd."

Beth fydd amserlen disgyblion?

Bydd pob ysgol yn amrywio. I nifer o blant cynradd dim ond dau fore yr wythnos fydd disgyblion yn ei gael dros y dair wythnos nesaf. Mae 'na amrywiadau o ran oed disgyblion ar draws y wlad.

Roedd y Llywodraeth yn awyddus i blant gael dychwelyd i'r ysgol am bedair wythnos, a oedd yn golygu y byddai'r tymor ysgol yn cael ei ymestyn am wythnos arall, hyd 24 Gorffennaf.

Fodd bynnag mae nifer fawr o awdurdodau lleol wedi cyhoeddi dros yr wythnos ddiwethaf y byddan nhw'n glynu at y diwrnod cau gwreiddiol, sef Gwener 17 Gorffennaf.

Fydd ysgolion Ynys Môn ddim yn ailagor am y tro oherwydd y cynnydd mewn achosion o Covid-19 mewn ffatri brosesu cywion ieir.

"Mae'r staff ysgolion i gyd wedi ymateb i'r her yn andros o dda, ac mae hynny'n wir ar draws y sector cynradd ac uwchradd," meddai Gareth Owen, sydd yn ysgrifennydd cangen NAHT Ynys Môn ac yn Bennaeth Ysgol Kingsland yng Nghaergybi.

Beth ddylai rhieni wneud os ydyn nhw'n pryderu?

Mae athrawon wedi bod mewn cyswllt agos a rhieni dros yr wythnosau diwethaf i egluro beth yw'r paratoadau a beth fydd y systemau newydd dros yr wythnosau nesaf yn ôl yr undebau.

Mae Gareth Owen o NAHT Cymru yn sicr bydd tawelu ofnau rhieni, staff a phlant yn hanfodol wrth i'r plant ddychwelyd i'w dosbarthiadau,

"'Dan ni wedi bod yn cysylltu â rhieni a tawelu meddyliau rhieni ynglŷn â'r paratoadau 'dan ni wedi bod yn 'neud er mwyn eu sicrhau bod ysgolion yn ddiogel i blant ddod nôl. "

Sut bydd modd teithio i'r ysgol yn ddiogel?

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar ailagor ysgolion, ac yn annog teuluoedd i osgoi defnyddio trafnidiaeth ysgol oni bai bod rhaid. Ond mae'r sefyllfa'n amrywio fesul awdurdod lleol. Does dim cludiant prif ffrwd mewn rhai siroedd. Mae cludiant ar gael mewn siroedd eraill i'r rhai sydd heb ddewis amgen. Mae ambell gyngor arall yn dal i weithio ar eu cynlluniau. Mae galw am fwy o eglurder am y sefyllfa, gyda undeb UCAC a mudiad RhAG yn poeni y gallai'r canllawiau effeithio ar ysgolion cyfrwng Cymraeg yn fwy na rhai eraill.

"Mae eisiau edrych ar y sector Gymraeg yn benodol," medd Rebecca Williams o UCAC, "Ni'n gwybod bod plant yn y sector honno'n tueddu i deithio yn bellach ar y cyfan."

Beth fydd yn digwydd ym mis Medi?

Dyw hi ddim yn glir eto beth fydd yn digwydd ym mis Medi, ond ar hyn o bryd y disgwyl yw y bydd rhaid i rhieni wneud peth dysgu o adref o hyd.

Dywedodd Kirsty Williams wrth gynhadledd newyddion ddyddiol Llywodraeth Cymru ar y 24 Mehefin: "Rwy'n amau y bydd angen i ni barhau gyda chymysgedd o ddysgu ar-lein a chyswllt wyneb yn wyneb gydag athrawon am gryn dipyn o amser."

Mae disgwyl rhagor o ganllawiau i gael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf.