Swigod cymdeithasol: Cyhoeddiad posib wythnos nesaf

  • Cyhoeddwyd
Nain a wyresFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe allai teuluoedd cyfan yng Nghymru allu dechrau ymweld â'i gilydd yn fuan am y tro cyntaf ers dechrau'r cyfnod cloi, yn ôl y Prif Weinidog.

Yn ystod cynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru ddydd Gwener, dywedodd Mark Drakeford fod gweinidogion wedi cael trafodaethau helaeth "ynghylch caniatáu 'swigod cymdeithasol'".

Ychwanegodd ei fod yn "gobeithio gwneud rhai penderfyniadau yn gynnar wythnos nesaf a gwneud rhywfaint o gyhoeddiadau ynghylch hynny".

Mae pobl sengl yn Lloegr eisoes yn cael ffurfio 'swigen' gydag aelwyd arall, sy'n golygu bod aelodau'r ddwy aelwyd yn cael ymweld â chartrefi ei gilydd.

Dywedodd Mr Drakeford hefyd fod trafodaethau'r parhau ynghylch ailagor busnesau lletygarwch awyr agored, ond ei fod eisiau i hynny ddigwydd "yn ofalus ac yn ddiogel".

"Os gallwn i ddod i benderfyniad wythnos nesaf, fe rown wybod i chi," dywedodd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna gannoedd ar draeth Aberogwr ddydd Iau, er gwaethaf y cyfyngiadau coronafeirws

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch ffrwgwd nos Iau ar draeth Aberogwr, ble roedd cannoedd o bobl wedi ymgasglu am oriau, dywedodd Mr Drakeford na ddylai "gweithredoedd hyll" ychydig o bobl yno "daflu cysgod" ar ymdrechion y boblogaeth ehangach.

Ond fe rybuddiodd pe byddai yna ddigwyddiadau tebyg dro ar ôl tro eto, yna fe fyddai hyn yn cael effaith ar benderfyniadau'r llywodraeth o ran llacio'r cyfyngiadau.

"Roeddwn i am ymateb i weithredoedd y mwyafrif o bobl yng Nghymru, sydd wedi dangos cymaint o bendantrwydd i wneud y peth iawn," meddai.

"Ond roedd lluniau neithiwr yn ein hatgoffa o'r hyn sy'n digwydd pan fod pethau'n mynd o'i le, ac mae'n rhaid i ni gyd fwrw ati i weithio'n galed i sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto."

Disgrifiad o’r llun,

Mae dros 1,000 o bobl wedi cael prawf Covid-19 wedi achosion ymhlith gweithwyr Rowan Foods, Wrecsam

Cadarnhaodd Mr Drakeford fod 204 o achosion o coronafeirws bellach wedi'u cadarnhau yn ffatri brosesu ieir 2 Sisters yn Llangefni, a 166 ymhlith gweithwyr cwmni Rowan Foods yn Wrecsam.

Mae dros 500 o bobl wedi cael eu profi yn Llangefni a 1,000 yn Wrecsam, meddai, ac mae swyddogion iechyd cyhoeddus yn "monitro'n ofalus" am unrhyw arwyddion o drosglwyddo cymunedol.

Dywedodd fod y sefyllfa yn ffatri Kepak, Merthyr Tudful yn wahanol, gyda 33 o achosion wedi'u gwasgaru dros sawl mis.

"Mae'r achosion yn ein hatgoffa nad yw coronafeirws wedi diflannu," meddai.

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford yn gobeithio gallu gwneud cyhoeddiadau pellach ddechrau wythnos nesaf

Mae'r Prif Weinidog hefyd wedi cyhoeddi manylion cynllun grantiau newydd gwerth £5m i helpu cwmnïau newydd

Bydd grantiau gwerth £2,500 ar gael i fusnesau sydd wedi dechrau masnachu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Mae'r llywodraeth wedi wynebu beirniadaeth nad oedd trefn i roi cymorth i fusnesau newydd yn ystod y pandemig.