Ysgolion yn gorfod addasu wrth baratoi i ailagor

  • Cyhoeddwyd
Glanhau cyfrifiaduron
Disgrifiad o’r llun,

Y gwaith glanhau yn Ysgol Cerrigydrudion cyn y bydd disgyblion yn dychwelyd

O sefydlu trefn ar gyfer y tai bach i osod tâp ar y llawr i helpu'r plant i gadw pellter, mae paratoadau Ysgol Cerrigydrudion i groesawu plant yn ôl bron wedi eu cwblhau.

Ar draws Cymru, bydd disgyblion o bob oed yn cael dychwelyd i'r ysgol o ddydd Llun ymlaen - ond dim ond mewn grwpiau bach.

Uchafswm o 26 fydd yn cael mynd i'r ysgol fach wledig hon yn Sir Conwy bob diwrnod.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r cyfnod cyn yr haf yn gyfle i ddisgyblion ddal i fyny gydag athrawon a pharatoi am y tymor newydd ym mis Medi.

Mae Ysgol Cerrigydrudion wedi bod ar agor i gynnig gofal i blant gweithwyr allweddol a phlant bregus.

Ond dydy'r gwersi arferol ddim wedi bod yn digwydd yma ers tri mis, ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi bod ysgolion yn cau fel ymateb i'r argyfwng coronafeirws.

Mae yna 80 o ddisgyblion gan yr ysgol ac mae'r pennaeth Eirlys Edwards wedi ystyried gofynion y teuluoedd wrth drefnu pwy fydd yn dod nôl pryd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyfyngiadau yn gosod heriau newydd i Eirlys Edwards, Pennaeth Ysgol Cerrigydrudion

"Mae o wedi bod yn gur pen o ran trio gweithio allan pwy fydd nôl a sut," meddai.

"Blaenoriaeth fel rhiant fy hun oedd cael teuluoedd i fewn yn hytrach na cael nhw nol fesul blynyddoedd er mwyn wneud pethau'n rhwyddach i rhieni.

"'Da ni yn gwerthfawrogi yr holl bethau mae rhieni di gorfod gwneud dros y 12 wythnos diwethaf.

"Ond wrth gwrs os fydd na bethau ddim yn mynd fel o'n ni di disgwyl mi fydd rhaid i ni addasu."

Conwy yw un o'r ychydig siroedd sydd dal yn ceisio cynnig pedair wythnos o ysgol cyn yr haf, wedi i gynlluniau'r Llywodraeth i ychwanegu wythnos i'r tymor ar draws Cymru fethu.

Mae'r mwyafrif o gynghorau bellach yn cynnig tair wythnos yn unig.

Fe fyddai Eirlys Edwards wedi hoffi gweld mwy o gysondeb.

"I ni yma yng Nghonwy da ni'n mynd i fod yn agored am y bedair wythnos, ond mae 'na siroedd cyfagos sy' ddim yn mynd i fod ar agor felly mae na broblemau o ran staffio, pethau felly," ychwanegodd.

"Ond da ni'n trio rhoi'r ffocws ar y plant a sicrhau… bo' ni yn rhoi y croeso cynhesaf allwn ni a bod nhw'n teimlo'n gyfforddus yn dod yn ôl i'r ysgol ac yn hapus."

Heriau

Yn Sir Gaerfyrddin, fe wnaeth swyddogion y cyngor gyfarfod yn rhithiol gyda phob pennaeth ysgol i drafod gofynion ail-agor.

Roedd rhaid trafod faint o staff fyddai ar gael gan fod rhai yn cysgodi neu'n fregus, ac ystyried sut fyddai trafnidiaeth ysgol yn gweithio

Un o'r heriau mwyaf oedd gorfod treblu'r ddarpariaeth gan lanhawyr.

"Ni wedi hala holiadur mas i'r rhieni yn gofyn faint o'r rhieni sy'n dymuno danfon eu plant nôl i'r ysgolion," meddai'r Cyfarwyddwr Addysg, Gareth Morgans.

"Ar draws y sir mae rhyw 40% o'n plant ni, rhyw 10,000 o blant, yn mynd i ddod nôl i'n ysgolion ni o'r 29ain.

"Ond wrth gwrs does dim lle i'r 10,000 yna ar y dydd Llun cyntaf, gobeithio fydd plant o leiaf yn cael dwy os nad tair cyfnod neu sesiwn nôl yn yr ysgol cyn gwyliau'r haf."

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna heriau i'w wynebu yn ysgolion Sir Gâr hefyd yn ôl y Cyfarwyddwr Addysg, Gareth Morgans

Yn Ysgol Cerrigydrudion, mae'r pennaeth yn falch i gael cyfle cyn yr haf i ddechrau adeiladu hyder rhieni a disgyblion mewn trefn sy'n debygol o barhau i fewn i dymor yr hydref.

Ac mae'n pwysleisio na fydd y disgyblion yna sydd ddim yn dychwelyd cyn yr haf yn cael eu hanghofio.

Y bwriad yw cael y cyswllt drwy ffrydio byw, y safle addysgu Hwb "ac wrth gwrs bod athrawon yn gallu rhoi galwadau ffôn er mwyn gwneud iddyn nhw deimlo hefyd yn rhan o'r dychwelyd yna nôl i'r ysgol," meddai Eirlys Edwards.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd yn rhaid i'r staff a disgyblion gadw dau fetr arwahan yng Ngherrigydrudion ac ysgolion eraill ledled Cymru