'Plant yn cael eu dylanwadu gan ddeunydd eithafol'
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd y gall plant ddychwelyd i'r ysgol wedi cael eu radicaleiddio wedi iddynt weld mwy o ddeunydd eithafol ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y cyfnod clo.
Bu cynnydd mewn sylwadau asgell dde eithafol yn y misoedd diwethaf, yn ôl yr addysgwr hiliaeth Nicky Nijjer.
Dywed yr heddlu fod perygl radicaleiddio wedi codi am fod plant a phobl ifanc yn treulio mwy o amser ar-lein, er bod llai o achosion wedi cael eu cyfeirio at unedau gwrth-derfysgaeth yn yr un cyfnod.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn benderfynol o rwystro radicaleiddio.
Sylwadau asgell dde eithafol
Mae'r BBC wedi gweld sylwadau ar wefannau asgell dde eithafol sy'n honni bod cysylltiad rhwng y mudiad gwrth-hiliaeth Black Lives Matter a grwpiau terfysgol.
Mae sylwadau eraill yn honni bod Mwslimiaid yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan Covid-19 am nad oeddynt yn dilyn canllawiau'r cyfnod clo. Roedd llawer hefyd yn gwthio sylwadau fod lledaeniad y feirws yn rhan o rhyw fath o gynllwyn gan China.
Mae Mr Nijjer, sy'n wreiddiol o Lundain, yn gweithio i brosiect Don't Hate, Educate, yn Abertawe.
Dywedodd y dylai athrawon fod yn effro i unrhyw agweddau eithafol ymhlith disgyblion, ac y dylent herio syniadau o'r fath pan fydd yr ysgolion yn ailagor ddydd Llun.
"Dydyn nhw [y plant] wedi cael dim byd ond llygredd," meddai.
"Mae'n rhaid i athrawon fod yn effro. Mae angen iddyn nhw fod ar eu gwyliadwraeth ac os ydyw'n mynd yn rhy ddifrifol mae angen galw am ymyrraeth."
Nod Don't Hate, Educate - a gafodd ei ddatblygu gan elusen Ethnic Minorities and Youth Support (Eyst) - yw herio unrhyw gamsyniadau a mythau ynglŷn â hil a chrefydd trwy gyflwyno plant a phobl ifanc i eraill o wahanol gefndiroedd i'w gilydd.
Mae'r prosiect yn annibynnol o'r ymgyrch gwrth-terfysgaeth, Prevent.
'Mwy o berygl radicaleiddio'
Dywedodd prif heddwas gwrth-derfysgaeth Cymru fod llai o achosion wedi cael eu cyfeirio at Prevent ers dechrau'r cyfnod clo ym mis Mawrth, yn bennaf oherwydd bod yr ysgolion wedi cau, ac am bod llai o wasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd meddwl ar gael.
"Er gwaetha'r gostyngiad mewn cyfeiriadau, rydym yn gwybod na fydd y bygythiad yn diflannu," meddai'r Uwch-arolygydd Jim Hall, pennaeth Uned Eithafiaeth a Gwrth-derfysgaeth Cymru (Wectu).
"Yn wir, mae'n debygol fod y perygl o radicaleiddio wedi cynyddu i nifer fechan o bobl fregus, gan y gallai'r pandemig fod wedi gyrru pobl ifanc i dreulio mwy o amser ar-lein a dwysáu unrhyw anghydfod, sy'n gwneud pobl yn fwy agored i gael eu radicaleiddio."
Dywedodd fod eithafwyr wedi addasu eu dulliau er mwyn creu anghydfod a drwgdybiaeth mewn cymunedau yn ystod y pandemig.
Galwodd ar bobl i fod yn wyliadwrus i newidiadau mewn ymddygiad neu weithgaredd amheus ar-lein.
Yn ôl ffigyrau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref ym mis Chwefror, daeth 250 o bobl i sylw'r heddlu a chynghorau oherwydd pryderon am eithafiaeth.
Roedd tua hanner y rhai a gyfeiriwyd dan Prevent yn 20 oed neu iau, gyda chwarter ohonynt yn gysylltiedig ag eithafiaeth asgell dde, a thua 15% yn gysylltiedig ag eithafiaeth Islamaidd.
Ar y pryd, rhybuddiodd Estyn, y corff arolygu ysgolion, y gallai rhai ysgolion fethu cyfleon i fynd i'r afael ag eithafiaeth am nad oeddynt yn credu ei fod yn berthnasol.
Dywedodd llefarydd ar ran Estyn eu bod yn cydnabod fod perygl i fwy o blant gael eu radicaleiddio oherwydd y cyfnod clo, a galwodd ar athrawon i gofnodi ac adrodd ar pob achos o iaith hiliol a bwlio hiliol.
'Rhethreg allan o reolaeth'
Dywedodd Mr Nijjer, sy'n Fwslim, fod rhai rhannau o Gymru lle'r oedd ychydig o fewnfudwyr, yn fwy agored i syniadaeth asgell dde eithafol, a bod hiliaeth wedi gwaethygu yng Nghymru mewn blynyddoedd diweddar.
"Mae'r rhethreg asgell dde allan o reolaeth," meddai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi darparu adnoddau ar Hwb, y platfform dysgu ar-lein, gyda'r bwriad o helpu gofalwyr a rhieni i amddiffyn plant ar-lein yn ystod y cyfnod clo.
Ychwanegodd llefarydd: "Rydym wedi ariannu Uned Eithafiaeth a Gwrth Derfysgaeth Cymru a phartneriaid i rwystro radicaleiddio, a byddwn yn parhau i gydweithio i gefnogi ysgolion trwy helpu disgyblion i fod yn fwy gwydn pan maent yn wynebu dylanwadau radical neu eithafol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2020