Dic y Rhedwr y cwblhau ei her i redeg 1,000 o filltiroedd

  • Cyhoeddwyd
Dic Evans
Disgrifiad o’r llun,

Dic Evans: "Beth gadwodd fi fynd oedd yr arian yn dod mewn, a phobl wedi rhoi arian mawr"

Mae rhedwr 73 oed o Geredigion wedi cwblhau ei her o redeg 1,000 milltir yn ystod y cyfnod cloi.

Fe gyrhaeddodd Dic Evans - sydd wedi cynrychioli Cymru nifer o weithiau - ei nod ddydd Mercher.

Ond fe gynhaliodd ddigwyddiad seremonïol yn Aberystwyth nos Wener, gan redeg at y promenâd i nodi diwedd ei her.

Ymunodd grŵp bach o redwyr lleol ag ef am daith pedair milltir o hyd i'r promenâd lle'r oedd torf yn eu croesawu ger y bandstand.

Codi dros £6,000

Gan gynnwys y daith, cyfanswm y milltiroedd y mae Dic wedi rhedeg ers mis Mawrth yw 1,011 - roedd wedi anelu at gyrraedd ei darged cyn diwedd mis Mehefin ond llwyddodd i gyflawni ei nod bron i wythnos yn gynt na'r disgwyl.

Gosododd Dic yr her i'w hun er mwyn codi arian ar gyfer yr uned cemotherapi yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

Mae wedi codi dros £6,000 gyda rhoddion yn cyrraedd o bobman ym Mhrydain a thu hwnt - gan gynnwys o Ffrainc, Canada a'r Unol Daleithiau.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Dic Evans gwmni nifer o redwyr eraill ar ran olaf ei her

Dywedodd Dic: "Mae'r penwythnos d'wethaf wedi bod yn galed. Mae sawl dolur wedi dod ac mae e jyst yn profi bod y corff wedi blino.

"O'n i'n arfer rhedeg 10 milltir y dydd yn gyson, a byddai'n cymryd awr i fi, falle llai.

"Ond nawr mae 10 milltir yn cymryd dwy awr i fi. Felly beth mae hyn wedi golygu yw bod fi'n rhedeg dros ddwy awr bod dydd am 90 diwrnod. 

"Beth gadwodd fi fynd oedd yr arian yn dod mewn, a phobl wedi rhoi arian mawr, a beth oedden nhw'n dweud yn eu negeseuon.

"Y parch roedden nhw'n rhoi i fi. Roedd hynny'n golygu lot - roedd rhaid cario 'mlaen."

'Bydda i'n rhedeg fory'

A beth am y dyfodol? Cyfle i orffwys? Ychydig bach, meddai Dic.

"Bydda i'n rhedeg fory, gobeithio os yw'r coesau yn caniatáu.

"Wy'n mynd i gymryd pythefnos rhwydd ond wedyn bydda i'n mynd 'nôl i hyfforddi a cheisio gweld os galla i gystadlu eto a dechrau hyfforddi'r bobl ifanc eto."